Galw am weithredu uchelgeisiol dros ein cymunedau Cymraeg
2026-06-09
Cartref > Newyddion > Galw am weithredu uchelgeisiol dros ein cymunedau Cymraeg
Cyn i’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth, Tai a Chynllunio - Siân Gwenllian AS - gyhoeddi datganiad am ei blaenoriaethau gweinidogol rydyn ni'n galw am weithredu “uchelgeisiol” i fynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Cymraeg.
Rydyn ni'n galw am:
- Cyflwyno amserlen a phroses paratoi Deddf Eiddo sy’n ymgorffori’r hawl i gartref digonol yn uniongyrchol yng nghyfraith Cymru
- Ailosod y system tai a chynllunio fel bod tŷ yn cael ei drin fel cartref yn hytrach nag ased, gwneud rhenti yn wirioneddol fforddiadwy a bod canran uwch o’r stoc tai mewn perchnogaeth gymunedol
- Adolygu’r mesurau ail gartrefi a sicrwydd y bydd unrhyw adolygiad yn arwain at awdurdodau lleol Cymru yn defnyddio eu holl bwerau cynllunio o blaid y Gymraeg o fewn y drefn bresennol
- Camau statudol i roi effaith i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg
Meddai Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
“Yn wyneb dirywiad cyson yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn y cadarnleoedd, nawr yw’r amser i weithredu’n uchelgeisiol er mwyn sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw, gymunedol.
“Rydym wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo ers blynyddoedd lawer. Mae cyfle nawr i lunio un a fydd yn ail-osod natur y system eiddo yng Nghymru, yn sicrhau nad yw’r farchnad leol yn cael ei llethu gan y farchnad rydd, a chreu system gynllunio gofodol sy’n gweithio o’r gwaelod i fyny, yn diwallu angen lleol ac o blaid y Gymraeg. Byddwn yn edrych am arwyddion clir yn natganiad y Gweinidog, yn unol â’r ymrwymiad yn y cynllun 100 diwrnod i ‘ddechrau ar y gwaith o ddeddfu am Hawl i Dai Digonol’.
“Mae gan y Llywodraeth newydd gyfle i droi’r llanw o blaid y Gymraeg a’n cymunedau. Byddwn yn cynnal rali ‘Troi’r Llanw dros y Gymraeg’ ar y 4ydd o Orffennaf ym Mhorthmadog i bwyso am y camau sydd eu hangen er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau Cymraeg.”
Mae'r llythyr llawn i'w weld yma