Galw ar McDonalds i barchu ein hiaith yng Nghaerfyrddin

deddf_iaith_newydd.gifYng Nghaerfyrddin yfory, am 1pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cychwyn cyfres o brotestiadau yn erbyn cwmni McDonalds. Prif fwriad y brotest fydd galw ar y cwmni i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Ar yr un pryd, bydd y protestwyr yn galw ar y cwmni i gefnogi'r economi leol, trwy wneud defnydd o gynnyrch amaethwyr lleol.

Meddai Rhys Llwyd, ar ran Cymdeithas yr Iaith:"Fel cymaint o gwmniau preifat eraill, nid yw McDonalds yn parchu hawl pobl Cymru i ddefnyddio'r iaith Gymraeg. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau Deddf Iaith Newydd fydd yn gorfodi cwmniau o'r fath i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn.Ychwanegodd:"Yn wir, ni ddylem synnu nad yw McDonalds yn parchu'r iaith Gymraeg, gan mai nid gwasanaethu ein cymunedau lleol yw nod y cwmni. Caiff hyn ei bwysleisio ymhellach o ystyried y ffaith nad ydynt yn barod i gefnogi'r economi leol trwy wneud defnydd o gynnyrch amaethwyr lleol."