Galw ar weinidog i ymyrryd dros addysg Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, i anfon neges frys at Gyngor Sir Fflint yn eu rhybuddio i beidio â gwastraffu amser ac arian ar gynllun a fyddai'n tanseilio addysg Gymraeg yn y sir.Am 2.30pm brynhawn yfory (Mercher 17/8), bydd y Cyngor yn trafod cynigion i orfodi ysgolion cynradd Cymraeg yn Nhreffynnon a Threuddyn i ddod i drefniant ffurfiol a rhannu campws gydag ysgolion Saesneg cyfagos. Bydd y Gymdeithas yn cefnogi Gorymdaith Brotest yn erbyn y cynlluniau http://syfflag.org/page6.phpDywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Mae ystyried effaith unrhyw ad-drefnu addysg ar yr iaith Gymraeg yn un o'r criteria sylfaenol a osodir gan Lywodraeth Cymru. Cymerwn nad oes unrhyw bosibiliad yn y byd y byddai'r Gweinidog Addysg yn caniatau'r fath gynlluniau dinistriol gan Gyngor Sir Fflint.. Felly yr ydym wedi gofyn iddo ymyrryd yn syth trwy anfon neges at y cyngor cyn eu cyfarfod yfory i'w cynghori i beidio â gwastraffu amser ac arian cyhoeddus yn datblygu cynlluniau nad oes unrhyw bosibiliad iddynt gael eu gweithredu. Dylai'r Cyngor gydweithio'n hytrach gyda llywodraethwyr a rhieni i ddatblygu addysg Gymraeg fel rhan sylfaenol o gynllunio at y dyfodol."