Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, i gamu i mewn yn syth i atal Cyngor Ynys Môn rhag dial ar ddwy ysgol wledig Gymraeg a arbedwyd ganddi lai na blwyddyn yn ôl.
Lai na blwyddyn ar ôl i Gyngor Ynys Môn orfod tynnu nôl eu cynnig i gau ysgolion Bodffordd a Thalwrn wedi i'r Gweinidog anfon swyddogion i ymchwilio, mae'r Cyngor yn ailgychwyn y broses eto yr wythnos nesaf gydag union yr un cynnig i bob pwrpas.
Mae'r Cyngor yn ceisio bod ynofalus i gadw at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion y tro hwn ac, yn unol â'r Côd, cychwynnir y broses trwy fod gofyn i'r Pwyllgor Sgriwtini - yn eu cyfarfod fore Mawrth nesaf 14eg o Ionawr - i gynnig sylwadau ar adroddiad cyn-gynnig sy'n argymell ehangu dwy ysgol yn nhref Llangefni a chau ysgolion Bodffordd a Thalwrn. Bydd y sylwadau a'r adroddiad wedyn yn cael eu trosglwyddo i Bwyllgor Gwaith y Cyngor a fydd yn penderfynu a ddylid awdurdodi cychwyn Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynllun.
Mewn ymateb, dywed Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n amlwg yn awr pam bod swyddogion y Cyngor wedi anwybyddu pob cais ganddom ers yr haf diwethaf i gyfarfod â nhw i drafod ffordd gadarnhaol ymlaen gan fod angen cynyddu a gwella'r ddarpariaeth yn Llangefni, ond heb fygwth yr ysgolion a chymunedau pentrefol. Mae'n amlwg iddynt wrthod cyfarfod gan eu bod yn benderfynol o ddial ar y rhieni a oedd wedi peri trafferth iddynt a bwrw ymlaen â'r un cynllun gan wneud sioe arwynebol o gadw at reolau'r broses y tro hwn.
"Yr ydym wedi galw ar y Gweinidog Addysg i ymyrryd o'r cychwyn y tro hwn gan fod y Cyngor wedi torri holl sail y Côd newydd sy'n gofyn i Awdurdodau gychwyn gyda rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. Galwn ar bobl i ddangos eu cefnogaeth i'r ddwy ysgol trwy ddod at y Pwyllgor Sgriwtini fore Mawrth nesaf. Hyd yn oed yn awr, gofynnwn i arweinydd y Cyngor a'r AC lleol Rhun ap Iorwerth i gyfarfod â ni cyn Ddydd Mawrth nesaf gan fod datrysiad syml i'r mater os yw'r ewyllys yno. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am greu "Ffederasiwn Cefni" o'r ysgol uwchradd, ysgol gynradd dwy-safle yn y dre a'r ysgolion pentrefol. Mae'r Cyngor wedi dweud na byddai ffederasiwn o'r fath yn ateb yr holl ofynion os nad oedd unrhyw wariant cyfalaf ychwanegol. Yr ateb amlwg yw sefydlu'r ffederasiwn a defnyddiwch y £10miliwn o gynllun y Cyngor i uwchraddio ac ehangu adeiladau'r ysgolion presennol. Mae'r Gweinidog wedi datgan fod hyn yn gwbl gyson â gofynion Cronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif, a byddai uned addysgol gref.
"Mae'n anhygoel mai rheswm y Cyngor dros gau'r ysgolion yw eu bod yn rhy boblogaidd - Ysgol Bodffordd dros eu capasiti ac Ysgol Talwrn o fewn 8% i'w chapasiti !! Bydai'r holl resymau ailadroddus a rydd y Cyngor yn erbyn opsiynau o'r fath yn rhesymau dros beidio â byth greu unrhyw ffederasiwn o ysgolion ac felly yn gwneud y Côd newydd yn destun gwawd o'r cychwyn. Yr ateb gorau fydd i'r Cyngor gydweithio a ni a'r cymunedau lleol ond, fel arall, mae angen i'r Gweinidog Addysg ymyrryd yn syth."