Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, i ymyrryd er mwyn sicrhau na all Cyngor Sir Caerfyrddin ruthro trwodd fwriad i gau nifer sylweddol o ysgolion pentrefol Cymraeg.Wedi 15 munud o hunan-longyfarch, penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dderbyn argymhelliad i adolygu dyfodol 11 o ysgolion a chychwyn trafodaethau mewn nifer o rai eraill – a hynny o fewn mis i’r Etholiad.
Ataliwyd y cyfarfod gan ddau ddwsin o rieni ac aelodau Cymdeithas yr Iaith yn yr oriel cyhoeddus (gan gynnwys Mr Anghofus a Mis Bos Bach yn eu gwisgoedd) yn gweiddi am gael cyfle i’r cyhoedd a’r Cyngor llawn gael trafod y cynllun. Yn ei dull arferol mynnodd Cyng. Meryl Gravell (Ms Bos Bach) fod y Bwrdd Gweithredol (sy’n cynnwys ond y glymblaid reolus) yn cymryd y penderfyniad.Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd cadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin, Sioned Elin:"Roedd y ffars o ddemocratiaeth a aeth ymlaen yn y siambr yn gwneud i’n cymeriadau cartŵn ni edrych yn normal mewn cymhariaeth. Byddwn yn pwyso’n awr ar Y Gweinidog Addysg i gyfarwyddo Cyngor Sir Caerfyrddin na ddylent gychwyn unrhyw broses newydd a allai arwain at gau ysgol cyn cyhoeddi canllawiau newydd y Cynulliad ar sut y gall ysgolion bychain gydweithio. Mae’n anfaddeuol fod y Cyngor yn rhuthro i styried cau ysgolion heb aros i weld beth yw’r holl bosibiliadau newydd."Picedu Cyfarfod Mr Anghofus a Mis Bos Bach yng NghaerfyrddinBydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cyfarfod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin rhwng 9am a 10am heddiw yn eu herio i osod cynllun dadleuol am ddyfodol ysgolion pentre' o flaen y Cyngor llawn am benderfyniad democrataidd gyda chyfle cynnig gwelliannau. Arferiad Mis Bos Bach (Cyng. Meryl Gravell) yw cymryd penderfyniad yn y Bwrdd ac adrodd i’r Cyngor heb roi unrhyw gyfle i newid unrhyw beth.Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r Aelod Cabinet dros addysg yn Sir Gaerfyrddin, Cyng. Ieuan Jones, yn ‘Mr Anghofus’ am iddo anghofio, yn gyfleus iawn, sôn wrth yr etholwyr yn yr Etholiad y mis diwethaf am y cynlluniau a ddadlennwyd heddiw i gael blwyddyn fawr o gau ysgolion pentrefol yn y sir.Caiff dogfen anferth o 17,000 o eiriau ei chyflwyno i Fwrdd Gweithredol y Cyngor fore Llun yn cynnig adolygu ac ymgynghori yn 2008/9 am safleoedd ysgol mewn 11 pentre’ Cymraeg ac i gychwyn trafodaethau mewn chwech arall. Mae hyn yn dilyn blwyddyn dawel cyn yr etholiad pan lwyddodd y Cyngor i gynnal ymgynghori o’r fath mewn 2 ysgol yn unig.Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal y piced tu allan i’r cyfarfod yn Neuadd y Sir Caerfyrddin er mwyn amlygu’r twyll ar yr etholwyr trwy bresenoldeb y cymeriadau ‘Mr Men’ enwog sef ‘Mr Anghofus’ (Cyng. Jones) a ‘Miss Bos Bach’ (neu ‘Little Miss Bossy’ arweinydd y cyngor Meryl Gravell). Esboniodd cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gâr, Sioned Elin:"Nid yw’n bosibl fod dogfen 17,000 o eiriau wedi ymddangos yn sydyn mas o unman. Mae’n amlwg ei fod ar gael cyn yr etholiad ond anghofiodd Mr Anghofus sôn wrth yr etholwyr fod y Glymblaid Annibynnol/Llafur am gyhoeddi rhyfel yn erbyn hyd at 17 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn Sir Gâr wedi blwyddyn gyfleus o dawel cyn yr etholiad. Petaent wedi dweud, a cholli 4 sedd eto, ni fuasent nhw wedi gallu gorfodi polisi o’r fath ar y sir. Heriwn y Bwrdd Gweithredol i drosglwyddo’r ymosodiad hwn ar ysgolion pentre’ i’w drafod yn y Cyngor llawn fel bod modd gwneud gwelliannau.""Gwarthus yw’r penderfyniad yn y cynigion i geisio cael gwared a’r ddwy ysgol ffederal yn y sir, gan ddangos eu hawydd dogmataidd i wrthod unrhyw opsiwn heblaw am gau ysgolion a chreu Ysgolion Ardal ganolog. Maen nhw am gau Ysgol 3-safle Y Fro yn gyfan gwbl a gwthio holl blant Ysgol Carreg Hirfaen ar un safle trwy osod portocabin crand i mewn. Roedden nhw wedi addo trafodaethau manwl ynghylch fformiwla cyllido ffederasiynau ond mae’n amlwg na allen nhw drafferthu unwaith fod yr etholiad drosodd gan fod cau yn haws.""Bydd Cymdeithas yr Iaith yn sefyll gyda phob cymuned sydd am ymladd yn erbyn y cynigion hyn. Ni chaiff y Cyngor ei ffordd yn hawdd, a bydd pobl yn cofio twyll sinigaidd cadw’r newyddion yn ôl tan ar ôl yr Etholiad."