Galw ar y Llywodraeth newydd i droi’r llanw dros y Gymraeg 

2026-05-10

Cartref > Newyddion > Galw ar y Llywodraeth newydd i droi’r llanw dros y Gymraeg 

Yn dilyn canlyniadau Etholiad y Senedd, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i weithredu dros yr iaith a chymunedau Cymraeg, ac yn cynnal rali fawr ym mis Gorffennaf.

Bydd y Gymdeithas yn cynnal rali ‘Troi’r Llanw dros y Gymraeg’ ar ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf, yn Stadiwm Y Traeth (Porthmadog) am 1yh. Nod y rali yw pwyso ar y llywodraeth newydd i weithredu o blaid y Gymraeg. 

Dros y penwythnos, codwyd baner enfawr 10 medr o hyd ar ffens allanol y Stadiwm i hysbysebu’r rali. 

Meddai un o siaradwyr y rali, Mirain Owen, Is-gadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:

“Nod y rali Troi’r Llanw dros y Gymraeg fydd galw ar Lywodraeth newydd Cymru i droi’r llanw dros y Gymraeg, yn dilyn yr holl ddegawdau o ymgyrchu. Ni all yr iaith a chymunedau Cymraeg aros am dymor seneddol arall heb weithredu cadarn i greu cartrefi a gwaith i Gymry ifanc yn eu cymunedau, a rheoli’r farchnad dai gan gefnogi mentrau cydweithredol cymunedol. 

“Byddwn yn galw hefyd am weithredu’n llawn y Ddeddf Addysg Gymraeg, a rhoi cyfle gwirioneddol i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob maes o fywyd. 

“Mewn gair, galwn ar y Llywodraeth i droi'r llanw o blaid y Gymraeg yn lle bod Cymry'n gorfod nofio yn erbyn y lli. Gofynnwn y cwestiwn syml - os na ddaliwn ar y cyfle hwn, yna pa bryd y daw gweithredu effeithiol dros y Gymraeg?”

Ymhlith siaradwyr eraill y rali fydd Dafydd Iwan, Mici Plwm a Siân Howys. Bydd Cleif Harpwood yn canu set yn cynnwys ei gân newydd yn galw am ‘Ail Chwyldro’ a chaneuon eraill gan Gwyneth Glyn a'r bandiau ifanc, Yr Anghysur a'r Ddelwedd.

Pob newyddion