Galwad ar y llywodraeth i roi gobaith i gymunedau

2026-06-15

Cartref > Newyddion > Galwad ar y llywodraeth i roi gobaith i gymunedau

Disgwylir yr wythnos hon ddyfarniad Arolwg Barnwrol o benderfyniad y Cyngor i fynd at ymgynghoriad ar gynnig i gau Ysgol Meidrim heb fynd trwy broses cywir o drafod yr holl opsiynau gyda rhagdyb yn erbyn cau. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Cyngor i beidio â chyhoeddi Hysbysiad Cau cyn derbyn canlyniad yr Arolwg Barnwrol.

Ar ran y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, dywed Ffred Ffransis:

“Gan fod y llys wedi penderfynu fod angen gwrandawiad llawn ar gyfer cais rhiant am Arolwg Barnwrol, mae’n amlwg fod y llys wedi credu bod achos sylweddol i’w ateb. Hyd yn oed pe na bai’r sefyllfa’n cyrraedd trothwy uchel ymyrraeth gyfreithiol, dylai’r Cyngor ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau gan y barnwr cyn mynd ymlaen i gyhoeddi Hysbysiad Cau.”

Yr un dydd heddiw, penderfynodd Cyngor Sir Penfro i gau Ysgol Clydau yng ngogledd y sir, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gan y cymuned leol. Meddai Bethan Williams ar ran Cymdeithas yr Iaith: 

“Dywedodd un o'r cynghorwyr mai symptom yw cau ysgolion gwledig o broblem ehangach diboblogi. Mae hi'n wir bod lleihad yn nifer y disgyblion yn symptom, ac yn un sy'n gyffredin i sawl sir, ond yn hytrach na mynd i'r afael â'r broblem ehangach penderfynodd y cyngor gau ysgol heddiw.

“Yn yr un ffordd, nid cadw a datblygu ysgolion gwledig yw’r unig ateb i hynny, ond mae’n rhan sylfaenol o’r ateb. Mae cynlluniau ar gyfer adeiladu rhagor o dai fforddiadwy ym mhentref Tegryn ond beth yw diben y tai hynny heb fod ysgolion i blant. 

“Mae cyfle i'r llywodraeth newydd roi gobaith newydd i’n cymunedau gwledig Cymraeg, a byddwn ni'n pwyso arnyn nhw i ddefnyddio'r cyfle hynny."

Pob newyddion