Gofyn am sicrwydd am weithredu addewid maniffesto creiddiol

2026-11-12

Cartref > Newyddion > Gofyn am sicrwydd am weithredu addewid maniffesto creiddiol

Gofyn am sicrwydd am weithredu addewid maniffesto creiddiol dros y Gymraeg

Mae heddiw’n nodi chwe mis ers ffurfio Llywodraeth Plaid Cymru. 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Anna Brychan AS, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, i gyflwyno amserlen ac eglurder ar weithredu argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg o ddynodi’n statudol ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. 

Cyflwynodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei adroddiad cyntaf, ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg,’ ym mis Awst 2024. Er bod dros ddwy flynedd ers cyhoeddi’r adroddiad a chwe mis ers ffurfio llywodraeth Plaid Cymru ym mis Mai 2026, nid oes gweithredu wedi bod ar argymhelliad canolog y Comisiwn o hyd, sef dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, heblaw sôn am ystyried y mater ymhellach.

Ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd fis mai eleni, ‘Dros Gymru’, ymrwymodd y blaid i’r canlynol:

“Gan weithredu ar argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, byddwn yn … deddfu i gael mesurau diogelu newydd i ardaloedd o ddwysedd ieithyddol uwch, gan weithio gydag awdurdodau lleol i benderfynu sut a ble y dylid dynodi’r ardaloedd hyn.”

Yn ôl y Gymdeithas, nid yw’r Llywodraeth wedi cadarnhau ei bod am weithredu ar yr addewid hon nac amlinellu llwybr clir i’w chyflawni er bod sawl cyfle wedi bod i wneud hynny. 

Mae’r mudiad wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r mater mewn gohebiaeth at Anna Brychan AS.

Meddai Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

“Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg gyhoeddi ei argymhellion ar sail ymchwil trwyadl, a dylai’r llywodraeth drin hyn fel mater o argyfwng.

“Mae’r amser ar gyfer ystyried wedi bod; mae’n bryd cyhoeddi llwybr ac amserlen glir i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad.

“Byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn galluogi cyflwyno mesaurau wedi’u teilwra yn ymwneud â thai, iaith, addysg, gweinyddiaeth ac ati, er mwyn cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.

“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i roi sicrwydd i ni y byddan nhw’n gwireddu’r addewid sydd yn eu maniffesto, gan roi amserlen ar gyfer pryd a sut bydd hynny’n cael ei gyflawni, a hynny ar fyrder.”

Yn ddiweddar, cododd y Cynghorydd Rhys Tudur – fu’n aelod o’r Comisiwn – bryderon am yr oedi gan y Llywodraeth cyn gweithredu’r addewid o ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.

Mewn ymateb ar y pryd, dywedodd Anna Brychan AS eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i ddatblygu’r dull o ddynodi, ac yn “ystyried y rôl y gallai deddfwriaeth ei chwarae wrth gefnogi’r gwaith hwn.”

Ychwanegodd Jeff Smith:

“Byddai’n gwbl annigonol i’r Llywodraeth ddibynnu ar gamau anneddfwriaethol ac anstatudol yn unig er mwyn dynodi. Mae angen deddfwriaeth i gyflawni mesurau penodol er mwyn diogelu sefyllfa'r Gymraeg yn y cymunedau lle mae'r iaith ar ei chryfaf – hynny yw, pob ardal lle mae dros 40% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, fel argymhellwyd gan y Comisiwn.

“Mae heddiw’n nodi chwe mis ers penodi Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog gan Senedd Cymru ac felly Plaid Cymru yn dod i rym, ond er gwaetha addewid maniffesto clir mae’r llywodraeth newydd eto i ddatgan eu bod am weithredu ar yr addewid, heb sôn am amlinellu llwybr clir ac amserlen i gyflawni’r dynodi.”

Mae’r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi adroddiad pellach ar gyfer ail gam ei waith, ‘Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg,’ ym mis Mawrth 2026, sy’n canolbwyntio ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd canolig ac is.

 

Darllenwch y llythyr yma.

Pob newyddion