Gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau yn “allweddol"

2026-03-23

Cartref > Newyddion > Gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau yn “allweddol"

Yn dilyn cyhoeddi ail adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg heddiw (dydd Llun, 23 Mawrth), mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r argymhellion gan ddatgan ei bod hi’n “allweddol i ddyfodol y Gymraeg” fod llywodraeth nesaf Cymru yn gweithredu ei argymhellion wedi etholiad y Senedd fis Mai.

Nod yr adroddiad, ‘Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg’, yw edrych ar ddyfodol yr iaith o fewn cymunedau sydd â dwysedd canolig neu is o siaradwyr Cymraeg.

Cyflwynodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei adroddiad cyntaf, ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’, ym mis Awst 2024. Ynddo, rhestrwyd 57 o argymhellion - gyda 40 ar gyfer Lywodraeth Cymru - er mwyn cryfhau’r Gymraeg mewn ardaloedd â chyfran uchel o siaradwyr.

Prif argymhelliad yr adroddiad oedd dynodi mannau o Gymru a oedd yn “Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch” er mwyn llunio polisïau penodol i gefnogi’r iaith yn yr ardaloedd hynny. Er hynny, dim ond parhau i ystyried y posibilrwydd o ddeddfu i lunio’r ardaloedd mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Rydym yn croesawu ail adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn cryfhau’r Gymraeg o fewn cymunedau yng Nghymru lle nad yw’r iaith yn un gymunedol.

“O roi mynediad teg i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar Gymraeg, cynyddu’r defnydd o Gymraeg mewn chwaraeon a chynyddu defnydd a gwelededd y Gymraeg yn y byd digidol, mae’n ddarn o waith dadansoddi sy’n gosod argymhellion clir i lywodraeth nesaf Cymru.

“Mae hi’n allweddol i ddyfodol y Gymraeg fod pwy bynnag sy’n ffurfio’r llywodraeth wedi’r etholiad fis Mai i fynd ati yn syth i ddechrau’r gwaith o weithredu holl argymhellion yr adroddiad yma er mwyn rhoi’r Gymraeg i bawb sy’n byw yng Nghymru, yn ogystal â rhaglen bolisi ehangach i adfywio’r iaith. Yn sicr, allwn ni ddim fforddio’r un oedi ag yr ydym wedi’i weld gan y llywodraeth bresennol gydag argymhellion yr adroddiad cyntaf.”

Pob newyddion