Gwersylla ar dir Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion

 crestceredigion.gif Ers 9 o'r gloch neithiwr, mae nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi sefydlu gwersyll ar gae sy'n perthyn i'r Cynghorydd Dai Lloyd Evans - Arweinydd Cyngor Ceredigion, Mae'r cae ar gyrrion Tregaron ac oddi mewn i ffiniau y Cynllun Datblygu Unedol dadleuol Ceredigion, sy'n argymell codi 6,500 o dai dros y blynyddoedd nesaf. Golyga hyn fod posibilrwydd i'r Cynghorydd Dai Lloyd Evans wneud arian personol mawr allan o'r Cynllun Datblygu Unedol os bydd caniatad i godi tai ar y tir arbennig hwn.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor Sir wedi dechrau ar y broses o ystyried y miliedd o wrthwynebiadau a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2002 i'r fersiwn drafft o'r Cynllun Datblygu Unedol. Mae'n fwriad ganddynt i gyhoeddu'r fersiwn nesaf erbyn Hydref 2003.Meddai Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith:"Cred Cymdeithas yr Iaith fod y tir dan sylw yn arwydd o'r ffordd fympwyol yr aeth Cyngor Ceredigion ati i rannu tir ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol. Byddai codi 6,500 o dai, yn gwbl niweidiol i ffyniaint cymunedol Ceredigion ac i barhad y Gymraeg fel iaith fyw. Mae hi hefyd yn gwbl gywilyddus fod Cynghorwyr unigol, fel Mr Dai Lloyd Evans yn gallu elwa'n bersonol o'r Cynllun."Bwriada Cymdeithas yr Iaith Gymraeg aros ar y tir am 24 awr.Darllenwch mwy ar wefan y BBC