Her i Swyddogion Addysg Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio pwysau newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar Ysgol Carreg Hirfaen, ffederasiwn 3-safle. Trwy newid y fformiwla gyllido i ragfarnu'n erbyn ysgolion bach, a thrwy symud y lwfans ar gyfer cynnal ffederasiwn, mae'r Cyngor yn ceisio gorfodi llywodraethwyr i gau dwy o'r safleoedd ym mhentrefi bach Llanycrwys a Ffarmers. Derbyniodd rhieni rybudd o 3 wythnos y gall eu safleoedd ysgol gau ar ddiwedd y tymor.

Meddai Trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd, "dyma fodel oysgol ffedereiddiedig sy wedi cynnal presenoldeb mewn nifer o gymunedaubach Cymraeg. Bu'r ysgol mor lwyddiannus yn addysgol fel bod nifer ydisgyblion wedi cynyddu'n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf. Mae'rCyngor yn ceisio defnyddio'i reolaeth ar y Cwdyn Arian i orfodi eibolisi dogmataidd o Ysgolion Ardal canolog ym mhob man, ac yn pwyso ar yllywodraethwyr i wneud ei waith brwnt drostynt. Cymerodd y Cyngorbenderfyniad unochrog i newid y fformiwla gyllido gan fynnu nad oeddraid iddo ymgynghori am newid o'r fath.Ychwanegodd Ms Clwyd "Yn yr achos hwn, dyw'r Cyngor ddim yn galludefnyddio dadl o niferoedd yn disgyn na hyd yn oed o gost. Mae'r Cyngoryn barod i dalu tua £200,000 am Gaban ychwanegol yng Nghwm-an ar gyfer yrholl blant ychwanegol o'r ddwy gymuned arall, ac yn barod i anwybyddupob ystyriaeth amgylcheddol trwy dalu degau o filoedd o bunnoedd igludo'r plant bach ol a mlaen bob dydd. Petai'r Cyngor yn syml yn rhoi'rarian hwn yn ol i'r llywodraethwyr, gallen nhw ddal i drefnu ysgollwyddiannus yn y 3 safle. Y gwir reswm am hyn oll yw awydd y Cyngor iwerthu adeiladau'r ddwy ysgol er mwyn codi arian am eu cynlluniaudrudfawr o godi Ysgolion Ardal newydd canolog, heb boeni dim am yreffaith ar addysg y plant ac ar y cymunedau. Dylai'r Swyddogion Addysgnewid eu gwaith i fod yn Werthwyr Eiddo !"Bydd rhai aelodau o'r Gymdeithas yn gofyn i lywodraethwyr (o flaencyfarfod heno rhyngddynt a rhieni) i beidio a chydweithio a'r cyngor.Mae rhieni hefyd yn trefnu Cyfarfod Protest agored yn Ffarmers nosfory am 8pm.