Herio Cyngor Newydd Ceredigion

 crestceredigion.gif Dros y pedair mlynedd diwethaf, daeth yn boenus o amlwg fod arweinwyr Cyngor Ceredigion wedi methu yn llwyr a diogelu yr iaith gymraeg a chymunedau Cymraeg y sir.

Wrth gwrs, yr enghraifft amlycaf o hyn fu'r Cynllun datblygu unedol dadleuol, a'r bwriad o roi caniatad cynllunio i 6,500 o dai, heb unrhyw ystyriaeth o'r effaith posib ar yr iaith na chymunedau lleol y sir.Felly, ar ddechrau tymor newydd, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar y cyngor newydd i droi dalen newydd.Bellach, mae sefyllfa'r gymraeg yng ngheredigion yn galw am weithredu brys. O ganlyniad, yn y cyfarfod hwn, bydd Cymdeithas yr iaith yn herio'r cyngor newydd i lunio Cynllun gweithredu a fydd yn ystyried anghenion y Gymraeg ym mhob maes polisi.Wrth gws, bydd angen rhoi sylw manwl i faes tai a chynllunio, ond hefyd, bydd angen edrych ar weinyddiaeth y Cyngor, polisiau addysg, datblygu economaidd, trafnidiaeth, diwylliant a hamdden - 'popeth yn Gymraeg a'r Gymraeg ym mhopeth!'.Dros y blynyddoedd diwethaf, bu arweinwyr y Cyngor yn llawer rhy hunanfodlon yn eu hagweddau tuag at y Gymraeg, gan dwyllo eu hunain i gredu eu bod yn gwneud cyfraniad mawr. Bwriad y cyfarfod hwn fydd i bwysleisio maint y dasg sydd o'u blaenau.Er mwyn pwysleisio'r angen i'r Cyngor weithredu dros y gymraeg ym mhob maes polisi, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi rhestr o ofynion - 'Siarter Ceredigion'Os ydych chi'n cytuno bod angen i Gyngor Ceredigion weithredu ar frys er lles y Gymraeg - dewch draw i Aberaeron i ddangos cefnogaeth.Herio'r Cyngor Newydd! Cyfarfod Cyhoeddus - 6.30pm - Mercher, Mehefin 30Neuadd y Cyngor, AberaeronSiaradwyr - Euros Lewis, Elin Haf Gruffudd Jones, Lyn Lewis DafisCyfarfod i alw ar Gyngor Sir ceredigion i weithredu yn gadarnhol dros y Gymraeg ym mhob maes polisi.