Lansio Deiseb dros Ddiogelu Darlledu Cymru

2026-09-29

Cartref > Newyddion > Lansio Deiseb dros Ddiogelu Darlledu Cymru

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio deiseb yn galw am ddiogelu darlledu Cymr, sicrhau dyfodol y Gymraeg ar bob llwyfan, sgrin a thonfedd, a datganoli darlledu ar frys.

Daw’r ddeiseb yn dilyn cyhoeddi bod BBC Cymru yn dod â rhaglenni Dros Ginio a Dros Frecwast ar fore Sadwrn a nifer o raglenni eraill Radio Cymru i ben. Bydd hyn yn arwain at dorri 45 o swyddi.

Datgelodd geisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar gan Gymdeithas yr Iaith hefyd fod y BBC yn torri’r cyflenwad statudol o 10 awr o raglenni Cymraeg yr wythnos i S4C yn ogystal, fel pris am roi gwell amlygrwydd i'r Sianel Deledu Gymraeg ar yr iPlayer. 

Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae'r cyhoeddiad y bydd BBC Cymru yn dod â rhaglenni Dros Ginio a Dros Frecwast ar fore Sadwrn ar Radio Cymru i ben yn warthus. Rydyn ni’n gresynu bod rhagor o ddirywiad yn yr arlwy sydd i gynulleidfa Gymraeg, sydd hefyd yn bygwth swyddi newyddiadurol Cymraeg prin sydd yn y sector. Os aiff y toriadau diweddaraf hyn yn eu blaenau, bydd y Gymraeg yn colli rhagor o dir ar y tonfeddi.

“Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith bod ein cyfryngau Cymraeg yn cael eu rheoli gan swyddogion anetholedig y BBC yn Llundain a gan wleidyddion gwlad arall. Mae hyn oll yn cadarnhau nad yw’r drefn Brydeinig yn gyfaill i Gymru nac i’r Gymraeg - a fydd hi byth.”

“Rydyn ni felly wedi lansio deiseb sy’n galw ar y BBC i atal gweithredu’r toriadau i raglenni BBC Radio Cymru, swyddi ac unrhyw doriadau eraill sydd ar y gweill i ddarlledu Cymraeg a Chymreig. Mae angen i Lywodraeth San Steffan ddarparu arian digonol ar gyfer gwasanaethau darlledu cyhoeddus a newyddiadurol yng Nghymru hyd nes bydd grymoedd dros ddarlledu a chyfathrebu Cymru yn nwylo pobl Cymru. 

“Yn bennaf oll, galwn am ddatganoli grymoedd a chyllid darlledu a chyfathrebu i Gymru yn ddi-oed er mwyn sicrhau dyfodol y sector darlledu a chyfathrebu sy’n deilwng o ac yn atebol i bobl Cymru, a sicrhau bod y Gymraeg ar gael ar bobl llwyfan, sgrin a thonfedd.”

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ei Raglen Lywodraethu 2026-30 y bydd yn “Gweithio tuag at ddatganoli pwerau dros ddarlledu, gan gynnwys pwerau i reoleiddio, goruchwylio a sicrhau atebolrwydd am ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru”. 

Ychwanegodd Owain Meirion:

“Rydym yn croesawu’r ymrwymiadau hyn gan Lywodraeth Cymru, yn benodol yr ymrwymiad i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, er mwyn gwarchod a chryfhau platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol. Ond, mae’r amserlen bresennol i wneud hynny erbyn gwanwyn 2028 ar y cynharaf yn rhy hwyr o lawer o ystyried y bygythiad sy’n wynebu ein cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus heddiw.”

 

Arwyddwch y ddeiseb trwy bwyso yma

Pob newyddion