Llai na 0.5% o weithgareddau dysgu prentisiaethau Cymraeg

2026-10-23

Cartref > Newyddion > Llai na 0.5% o weithgareddau dysgu prentisiaethau Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon ynglŷn â chanran y prentisiaethau sy’n cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg – sy’n “druenus o isel” yn ôl y mudiad – ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i gynyddu’r ddarpariaeth.

Dengys ystadegau Llywodraeth Cymru fod llai na 0.5% o weithgareddau dysgu prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu darparu yn y Gymraeg (ag eithrio gweithgareddau dysgu sy’n addysgu’r Gymraeg).

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai gosod disgwyliad i ddarparu canran benodol o brentisiaethau drwy’r Gymraeg yn cyfrannu’n uniongyrchol at nifer o ymrwymiadau Plaid Cymru yn ystod y tymor seneddol hwn, gan gynnwys ymrwymiadau o ran cryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol ac fel iaith gwaith.

Mae’r mudiad wedi gofyn am gyfarfod gyda’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS, er mwyn trafod y pryderon hyn.

Meddai Aled Thomas, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’n annerbyniol ac yn destun pryder bod cyn lleied o brentisiaethau yn cael eu dysgu yn Gymraeg ar hyn o bryd. Mae’r ffigwr presennol yn druenus o isel. Nid yw hyn yn adlewyrchu lle dylai’r Gymraeg fod yn ein cyfundrefn addysg a’n cymdeithas yn ehangach. 

“Mae prentisiaethau’n hanfodol i sicrhau gweithlu Cymraeg at y dyfodol mewn nifer o feysydd lle mae gallu gweithio drwy’r Gymraeg yn hollbwysig, megis iechyd a gofal, gofal plant ac amaethyddiaeth. Ym maes iechyd a gofal, er enghraifft, bydd prentisiaethau Cymraeg yn hanfodol er mwyn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau yn Gymraeg yn unol â strategaeth Mwy na Geiriau.

"Galwn ar y Llywodraeth i roi sylw teilwng a chyllid digonol i gynyddu’r ddarpariaeth o ran prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn sylweddol. Byddwn ni’n gofyn i’r Dirprwy Weinidog gynnwys cymal yn y canllawiau i ddarparwyr prentisiaethau yn gosod dyletswydd arnynt i neilltuo canran o’u cyllideb ar gyfer darpariaeth Gymraeg.

"Gofynnwn hefyd iddynt glustnodi canran benodol o gyllideb prentisiaethau’r Llywodraeth ar gyfer darpariaeth Gymraeg, a bod y swm yn cynyddu bob blwyddyn tuag at gyfran o 20% erbyn 2030. Os yw’r Llywodraeth newydd o ddifri wrth ddweud bod y Gymraeg yn rhan greiddiol o’n cyfundrefn addysg fel gwlad, mae angen gweithredu er mwyn gwireddu hynny."

Pob newyddion