Llai o Gymraeg ar Radio Ceredigion

Radio Ceredigion.pngMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu cais gan Radio Ceredigion i leihau ei darpariaeth Gymraeg.Cododd Cymdeithas yr Iaith bryderon pan drosglwyddwyd rheolaeth dros yr orsaf i gwmni yn Arberth Sir Benfro. Mae hyn yn gam ymhellach yn ôl ac mae angen ymyrraeth gan y Llywodraeth yn ol yr ymgyrchwyr.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Nid yn unig mae Radio Ceredigion yn ceisio lleihau ei darpariaeth Gymraeg ond mae Real Radio wedi cael trwydded i ddarlledu drwy Gymru gyfan heb ddatgan unrhyw fwriad i gynnig darpariaeth Gymraeg felly does dim dwywaith fod pethau'n dirywio'n sylweddol."Gall y llywodraeth dynhau rheolau a pholisïau iaith OFCOM yng Nghymru er mwyn sicrhau na fydd dirywiad pellach ac mae angen gwneud hynny'n syth."Ychwanegodd Bethan Williams:"Mewn ardal lle mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg dylai Radio Ceredigion, fel pob gorsaf radio lleol yng Nghymru, fod yn adlewyrchu'r galw yn hytrach na thorri arno. Mae'r ystod o orsafoedd sydd ar gael nawr yn Saesneg wedi ffrwydro, tra bo'r hyn sydd ar gael yn y Gymraeg wedi crebachu'n sylweddol. Mae'r profiad hwn yn cryfhau ein dadleuon fod angen datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yma i Gymru."