Lleoliadau Gigs Eisteddfod Eryri 2005

Pwyswch yma i fynd i dudalen gigs Steddfod 2005

Oeddech chi’n un o’r rhai lwcus a lwyddodd i gael tocyn i un o gigs diweddar Gruff Rhys ac wedi’ch plesio gymaint nes eich bod ar bigau i’w weld eto?Neu oeddech chi’n hollol siomedig eich bod wedi methu cael tocyn i un o’r gigs i hyrwyddo’r albwm Yr Atal Genhedlaeth? Wel, fe gewch un cyfle arall i weld prif ganwr y Super Furry Animals yn perffomio ar ben ei hun gan y gallwn gyhoeddi y bydd yn perfformio mewn gig arbennig iawn yn Eiteddfod Genedlaethol 2005!Fel arfer, mewn cyd-weithrediad â phobl leol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni, a hynny yng nghanolfannau gorau yr ardal. Bydd dwy brif ganolfan i’r gigs yn Eisteddfod eleni, sef ‘Amser’ ym Mangor a ‘Cofi Roc’ yng Nghaernarfon. Unwaith eto bydd y Gymdeithas yn cynnig arlwy o fandiau ac artistiaid gorau Cymru gyda rhywbeth ar gyfer pob blas cerddorol.Ymysg y cerddorion fydd yn ymddangos i Gymdeithas yr Iaith, bydd Gruff Rhys yn gwneud perfformiad arbennig iawn. Dywedodd Swyddog Adloniant y Gymdeithas, Owain Schiavone:"Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi ein bod yn mynd i fod yn defnyddio dwy ganolfan wych yn ardal yr Eisteddfod unwaith eto eleni – mae Amser a Cofi Roc yn ddwy o’r canolfannau gigs gorau yng Ngogledd Cymru. Ar ben hyn rydym wrth ein boddau fod Gruff Rhys yn mynd i fod yn perfformio i ni yn ystod yr wythnos, roedd y gig y gwnaeth i’r Gymdeithas yn Solfach adeg Eisteddfod Ty Ddewi yn ddigwyddiad gwych a dwi’n gwybod bydd y gig eleni yn arbennig iawn hefyd….allwn ni ddim aros!"