Llu o Gymry enwog ac amlwg yn cefnogi datganoli grymoedd llawn i Gymru

hysbyseb-CYIG-bach.jpgBydd hysbyseb tudalen llawn yn hyrwyddo rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gaiff ei chynnal tu allan i adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ar Fai 16eg, yn ymddangos yn y wasg Gymreig yfory (Iau 7fed). Mae'r hysbyseb yn cynnwys enwau llu o Gymry enwog ac amlwg, yn ogystal ag aelodau Cymdeithas yr Iaith a gyfrannodd at gost yr hysbyseb, sy'n cefnogi galwad y Gymdeithas dros ddatganoli'r grymoedd yn ymwneud â'r Gymraeg yn LLAWN o San Steffan i Gymru.Meddai Catrin Dafydd, ar ran Gr?p Deddf Iaith Newydd, Cymdeithas yr Iaith:"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr holl gyfraniadau sydd wedi gwneud yr hysbyseb hwn yn bosibl. Mae pob un sydd wedi cyfrannu yn datgan cefnogaeth i'n galwadau, sef nad yw'r Gorchymyn iaith yn ei ffurf bresennol yn mynd yn ddigon pell, a bod angen datganoli'r grymoedd yn ymwneud â'r Gymraeg yn LLAWN o San Steffan i Gymru."

Ymysg y cyfranwyr mae unigolion amlwg o'r pleidiau gwleidyddol gan gynnwys Yr Arglwydd Gwilym Prys Davies (Llafur), Hywel Williams AS (Plaid Cymru), Adam Price AS (Plaid Cymru), Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol), Nerys Evans AC (Plaid Cymru), Leanne Wood AC (Plaid Cymru) a Bethan Jenkins AC (Plaid Cymru). Hefyd wedi cyfrannu mae Tom Ellis cyn Aelod Seneddol Llafur yn Wrecsam, y cyn Farnwr Dewi Watkin Powell a chyn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg John Elfed Jones.O fyd darlledu ac adloniant mae Gruff Rhys, Caryl Parry Jones, Gwyn Elfyn, Maureen Rhys, Meredydd Evans a'r Dr R Alun Evans, cyn bennaeth y BBC ym Mangor. Mae llu o academyddion a llenorion hefyd wedi cyfrannu.Yn ogystal fe wnaeth Paul Davies, Aelod Cynulliad a llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg a threftadaeth, ddatgan ddoe bod Ceidwadwyr Cymru o blaid ehangu sgôp y gorchymyn iaith er mwyn trosglwyddo'r holl bwerau deddfu dros yr iaith Gyrmaeg o Lundain i Gaerdydd.Bydd y rali yn cael ei chynnal am 2pm ar ddydd Sadwrn yr 16eg o Fai tu allan i'r Cynulliad. Yn siarad bydd Hywel Teifi Edwards, Adam Price, Angharad Mair a Catrin Dafydd. Gobaith Cymdeithas yr Iaith yw y bydd pobl Cymru yn dod ynghyd i ddangos eu bod o blaid trosglwyddo'r pwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg yn llawn i'r Cynulliad yma yng Nghymru.