Llywodraeth Cymru'n Llusgo Traed ar Reoliadau Ail Gartrefi a Llety Gwyliau

Mewn rali yn Llangefni ar ddydd Sadwrn 17eg Medi fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo traed yn ei addewid i reoli ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau lle mae pobl ifanc yn methu cael lle i fyw yn eu cymuned eu hunain.

Esboniodd Osian Jones, un o drefnwyr y rali:
"Fe wnaethon ni gynnal rali yn Llangefni heddiw er mwyn lansio rhan nesaf ymgyrch Nid yw Cymru ar werth. Ein bwriad yw annog awdurdodau lleol fel Ynys Môn, Gwynedd, Conwy i ddefnyddio'r grymoedd newydd y mae Llywodraeth Cymru am gynnig iddynt i reoli ail gartrefi a llety gwyliau yn llawn o fis Ebrill - ond dylai'r gwaith paratoi ar gyfer hynny fod yn dechrau nawr."

O fis Ebrill nesaf bydd gan gynghorau sir bwerau newydd i fynd leihau effaith ail gartrefi a llety gwyliau yn eu hardaloedd. Bydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd – prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
Bydd cynghorau yn gallu:
1. Rheoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned; a
2. Cynyddu treth trafodiadau tir (land transaction tax) ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau
3. Mynnu caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i’r llall.

Ychwanegodd Osian Jones:
"Mae ewyllys gwleidyddol o'n plaid a blwyddyn o ymgyrchu a phwysau gan bobl ar lawr wedi arwain at enillion allai wneud gwahaniaeth. Ond mae Llywodraeth Cymru'n llusgo eu traed - does dim canllawiau nac addewidion o gyllid i gyflawni'r holl waith wedi mynd at awdurdodau lleol eto.
Bydd dosbarthu eiddo i gategorïau fel bod modd gweithredu'r cynnig pwysig o fynnu caniatâd cynllunio i newid dosbarth defnydd yn waith sylweddol; fel y bydd y gwaith o gasglu tystiolaeth am yr angen am ganiatâd cynllunio.
"Gallai'r grymoedd yma wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau. Roedden ni'n falch felly bod Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, y cynghorwyr sir Arfon Wyn (Ynys Môn) ac Aaron Wynne (Conwy) yn ychwanegu eu llais at yr alwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd y cynigion yn cael eu gweld fel addewidion gwag."

Lluniau'r rali - https://cymdeithas.cymru/lluniau/ralimon