Ymgyrchwyr yn galw am weithredu ar frys wrth gyflwyno neges Calan i Eluned Morgan

Wrth ddymuno blwyddyn newydd dda i’r Prif Weinidog, rydyn ni wedi gadael cerdyn Calan yn swyddfa Eluned Morgan yn Hwlffordd heddiw i atgoffa'r Llywodraeth bod angen gwneud llawer mwy os ydyn nhw am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, gan mai dim ond 25 mlynedd sydd ar ôl.

Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Dydy’r Llywodraeth ddim yn cymryd ei tharged ei hunan o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 o ddifri. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 ac ymateb y Llywodraeth iddyn nhw’n dangos hynny. Mae’r Llywodraeth wedi gosod y targed yma ers 2016 ond ar hyd yr amser ers hynny dydyn ni ddim wedi gweld y gweithredu sydd ei angen i’w gyrraedd. Cwympodd nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru, yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol.
“Fel mae pethau, mae cyfleoedd mawr yn cael eu colli - mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn cael ei gyflwyno i’r Senedd yn hwyrach yn y mis, ond fydd e ddim yn rhoi addysg Gymraeg i bawb. Ers ymrwymo yn gynnar yn 2024 i greu corff darlledu i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli grymoedd dros ddarlledu does dim byd wedi digwydd. Doedd y papur gwyn ar dai a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd ddim yn rhoi unrhyw hawliau i bobl i gartref; a does dim disgwyl ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Awst, tan y gwanwyn."

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i fynd ati ar unwaith gan ddechrau gyda’r blaenoriaethau canlynol:

  • Cryfhau Bil y Gymraeg ac Addysg yn sylweddol er mwyn rhoi addysg Gymraeg i bawb
  • Sefydlu Corff Darlledu a Chyfathrebu ar fyrder er mwyn paratoi’r ffordd at ddatganoli darlledu, fel sydd wedi ei addo
  • Cynllunio i gyflwyno Deddf Eiddo er mwyn galluogi pobl i gael cartref yn eu cymunedau
  • Gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a chreu Strategaeth Ardaloedd Gwledig er mwyn diogelu ac adfer cymunedau Cymraeg
  • Ymestyn hawliau clir drwy ddeddfwriaeth i bobl allu defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau. Yn arbennig, trwy ymestyn y rhwymedigaeth i'r sector preifat ddarparu gwasanaeth Cymraeg
  • Ymestyn y ddarpariaeth iechyd a gofal yn Gymraeg trwy sicrhau gweithredu deddfwriaeth gan gynnwys Strategaeth Mwy na Geiriau yn effeithiol
  • Datblygu defnydd y Gymraeg ym maes technoleg
  • Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio fel iaith gwaith yn y gwasanaeth sifil ac mewn gweithluoedd eraill.

Ychwanegodd Joseff Gnagbo:
“Er bod amser yn brin, dydy hi ddim yn rhy hwyr. Os ydy’r Llywodraeth o ddifri am y Gymraeg rhaid gweithredu yn flaengar ar draws nifer o feysydd a gwneud yr iaith yn flaenoriaeth. Bydd ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith yn dwyn y Llywodraeth hon i gyfrif ac rydyn ni’n galw ar ein holl gefnogwyr i ymuno yn y gwaith ar ddechrau 2025.”