Oedi cyn gweithredu prif argymhelliad y Comisiwn Cymunedau

2026-02-24

Cartref > Newyddion > Oedi cyn gweithredu prif argymhelliad y Comisiwn Cymunedau

Yn dilyn datganiad gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, ar y cynnydd ar weithredu adroddiad cyntaf y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 24 Chwefror), mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod yr oedi cyn gweithredu prif argymhelliad yr adroddiad yn “anfaddeuol.”

Cyflwynodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei adroddiad cyntaf, ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’, ym mis Awst 2024. Ynddo, rhestrwyd 57 o argymhellion, gyda 40 ar gyfer Lywodraeth Cymru, er mwyn cryfhau’r Gymraeg mewn ardaloedd â chyfran uchel o siaradwyr.

Prif argymhelliad yr adroddiad oedd dynodi mannau o Gymru a oedd yn “Ardaloedd o Arwyddocad Ieithyddol Dwysedd Uwch” er mwyn creu polisiau penodol i gefnogi’r iaith yn yr ardaloedd hynny.

Er hynny, dim ond parhau i “archwilio” y posibilrwydd o ddeddfu i ddynodi’r ardaloedd yma wnaeth Mark Drakeford yn ei ddatganiad heddiw.

Mewn ymateb, dywedodd Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae hi bellach yn flwyddyn a hanner ers i’r Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad cyntaf, ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’. Mae hwn yn ddarn o waith ymchwil a dadansoddi hynod fanwl sydd yn cynnig ffyrdd pendant o gynnal y Gymraeg fel iaith fyw yn ei chymunedau traddodiadol.

“Mae’r ffaith ei fod wedi eistedd ar y silff yn casglu llwch gyda’i phrif argymhelliad heb ei weithredu ers Awst 2024 a chyda thymor y Senedd hon bron ar ben yn anfaddeuol. Mae cymunedau Cymraeg yn wynebu argyfwng heddiw, ond yn anffodus nid yw gweithredoedd y llywodraeth yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa - ni all llywodraeth nesaf Cymru oedi ragor cyn gweithredu.”

Pob newyddion