Pa ffordd ymlaen yn awr i Ysgol Meidrim?

2026-06-19

Cartref > Newyddion > Pa ffordd ymlaen yn awr i Ysgol Meidrim?

Mae dyfarniad wedi dod ar gyfer yr Arolwg Barnwrol o benderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin i fynd at ymgynghoriad ar gynnig i gau Ysgol Meifod heb fynd trwy proses teg. Nid oedd y Gymdeithas yn rhan o'r her cyfreithiol, ond deallwn yn iawn pam bod rhiant plentyn sydd ag anghenion dwys iawn, a thystiolaeth feddygol y byddai cau'r ysgol yn niweidiol iawn, yn defnyddio unrhyw ddull agored i wrthwynebu. Gwerthfawrogwn fod yr ysgol gyfan a'r gymuned yn sefyll yn gryf yn eu gwrthwynebiad i gau'r ysgol.

Nodwn fod y Barnwr wedi gwneud sylwadau beirniadol iawn o Gyngor Sir Gâr o ran diffyg ymwneud â'r llywodraethwyr ac nad ystyriwyd eto yr opsiynau amgen heblaw am gau’r ysgol, ond nad yw'r dystiolaeth yn ddigon i gyrraedd trothwy uchel iawn ymyrraeth gyfreithiol, gan fod cyfle o hyd i’r Cyngor roi ystyriaeth ddifrifol i’r opsiynau amgen wrth ystyried gwrthwynebiadau i’r Hysbysiad Cau.

 Dywed y Barnwr yng nghymal 38 ei ddyfarniad:
“Rwyf wedi dod i'r casgliad, ar yr amod y rhoddir ystyriaeth gydwybodol i'r opsiynau hynny, nad yw'r her yn cael ei phrofi; ond ni fyddwn yn canfod bod yr her yn gynamserol”

Mae dau ddewis felly gan y Cyngor. Gall barhau i ddiystyru barn llywodraethwyr a'r gymuned leol, rhoi ystrydeb am "ddysgu gwersi at y dyfodol" a dal ymlaen gyda'r bwriad o geisio cau'r ysgol. Neu gall nodi'r feirniadaeth a chychwyn cyfnod newydd trwy dynnu nol yr hysbysiad i gau'r ysgol a mynd ati i drafod yn syth gyda llywodraethwyr eu cynlluniau cyffrous i ddatblygu Hyb Cymunedol ac ysgol ochr yn ochr, allai fod yn gynllun peilot fyddai'n sail i adfywiad ein cymunedau gwledig Cymraeg. Fan leiaf, bydd yn rhaid i’r Cyngor mewn ymateb i’r Gwrthwynebiadau ddangos fod ystyriaeth gydwybodol wedi bod i opsiwn amgen y llywodraethwyr – nid ei wrthod mewn un frawddeg fel ag a waned yn y cyfarfod Cabinet a benderfynodd gyhoeddi Hysbysiad Cau.

Ymhellach, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gorfod tynnu'n ôl yr Hysbysiad Cau ar gyfer Ysgol Meidrim heddiw (19/6) ddim ond tri diwrnod wedi ei gyhoeddi'r wreiddiol ar 16/6. Ar yr Hysbysiad gwreiddiol, rhoddwyd Ysgol Bancyfelin fel un o'r 3 "ysgol dderbyn" ond, wedi sylweddoli fod yr ysgol agosaf hon eisoes dros gapasiti, mae'r Cyngor wedi gorfod cyhoeddi Hysbysiad Cau newydd heb enw Ysgol Bancyfelin ac estyn y cyfnod gwrthwynebu hyd 17eg Gorffennaf. Nid yw'r ffordd y mae'r ysgol a rhieni ym Meidrim yn cael eu trin yn deg o gwbl.
 

Pob newyddion