Penwythnos Brwydr y Bandiau yn Aberystwyth

logo_adloniant_tafod.jpgUn o brif amcanion Grŵp Adloniant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ydy hybu talentau ifanc cerddoriaeth Cymraeg. Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth yn Eisteddfod 2002 a 2003, bydd y Gymdeithas unwaith eto yn cynnal cystadleuaeth ‘Brwydr y Bandiau’ yn Eisteddfod Casnewydd 2004.

Ers y flwyddyn newydd mae’r grŵp wedi bod yn gwahodd bandiau newydd i gystadlu ac mae’r ymateb wedi bod yn arbennig o dda eto eleni. Mae’r ymateb wedi bod cystal, nes fod angen trefnu rhagbrofion cyn wythnos yr Eisteddfod i benderfynu ar y 4 band a fydd yn camu ymlaen i’r rownd derfynol yng Nghlwb Pont Ebwy, Casnewydd! Oherwydd hyn, bydd y Gymdeithas yn trefnu ‘Penwythnos Brwydr y Bandiau’ yn Aberystwyth i gynnal y rhagbrofion ac i ddathlu llwyddiant y gystadleuaeth yn y gorffennol.poster_brwydr_yr_bandiau.JPG Bydd y penwythnos yn dechrau gyda’r rhagbrawf cyntaf yn Nhafarn y Cwps ar Wener, Gorffennaf 2ail a bydd ennillwyr Brwydr y Bandiau 2002, Mattoidz, yn gwneud set arbennig i ddiweddu’r noson. Bydd yr ail ragbawf eto yn y Cwps ar nos Sadwrn, Gorffennaf 3ydd ble bydd set gan enillwyr Eisteddfod Maldwyn y llynedd, Fenks, yn dilyn y gystadleuaeth. Bydd y ddwy noson yn rhai hwyliog tu hwnt ac yn gyfle gwych i weld rhai o dalentau newydd mwyaf addawol cerddoriaeth Cymraeg yn mynd drwy eu pethau. Cofiwch, fe’u clywsoch yma gyntaf!!Bydd y rownd derfynnol yn cymryd lle yng Nghlwb Pont Ebwy, Casnewydd ar nos Fercher, Awst 3ydd, pryd bydd Fenks a un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, Kentucky AFC yn chwarae hefyd. Bydd yr ennillwyr yn mynd ymlaen i gefnogi Anweledig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, ac yn cael cyfle i recordio sesiwn i raglen C2, Radio Cymru!Am ragor o wybodaeth ynglyn a ‘Penwythnos Brwydr y Bandiau’ neu gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod, e-bostiwch bandiau@cymdeithas.com neu ffonio Owain Schiavone(Swyddog Adloniant) ar 07813050145. Gallwch hefyd ymweld a gwefan arbennig y gigs www.cymdeithas.com/gigscasnewydd/MATTOIDZ + BYB - Nos Wener 02/07/04 - Y Cwps AberystwythFENKS + BYB - Nos Sadwrn 03/07/04 - Y Cwps Aberystwyth