Plant Cymru’n dal i gael eu hamddifadu o wersi nofio Cymraeg

2026-03-30

Cartref > Newyddion > Plant Cymru’n dal i gael eu hamddifadu o wersi nofio Cymraeg

Ddeng mlynedd ers i’r set gyntaf o Reoliadau Safonau’r Gymraeg ddod yn weithredol, dydy plant a phobl ifanc Cymru ddim yn derbyn gwersi nofio yn Gymraeg fel y dylent o hyd. 

Mae gwaith ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith yn datgelu methiant parhaus awdurdodau lleol a rhai sefydliadau cysylltiedig ledled y wlad i gynnig a darparu gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg, er bod hawliau clir wedi’u sefydlu gan Safonau’r Gymraeg ers 2016. Mae’r Gymdeithas wedi cyflwyno cwyn ffurfiol i Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch y mater, ac wedi galw arni i ddefnyddio ei phwerau gorfodi i sicrhau hawl holl blant a phobl ifanc Cymru i ddarpariaeth Gymraeg.

Ymysg y diffygion a amlygwyd gan ganfyddiadau’r Gymdeithas, gwelwyd:

  • Mai’r dewis annigonol gan sawl corff yw rhwng gwersi nofio ‘Saesneg’ neu ‘Ddwyieithog’, ond dim ‘Cymraeg’, gan greu diffyg sicrwydd o ddarpariaeth Gymraeg gyflawn

  • Nad yw cyrff yn ei gwneud yn eglur ar systemau archebu beth yw cyfrwng y gwersi sy’n cael eu harchebu nac yn cynnig y Gymraeg yn rhwydd ac yn rhagweithiol fel sy’n ofynnol

  • Bod gwersi Cymraeg yn llai cynhwysfawr, yn cael eu cynnig yn llai aml ac mewn llai o ganolfannau hamdden ar draws ardal awdurdodau lleol nag y mae gwersi Saesneg cyfatebol

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi pryderon yn ddiweddar fod y Comisiynydd presennol wedi colli ei ffordd. Yn ôl y mudiad, mae canfyddiadau’r ymchwil yn dangos canlyniadau niweidiol symud yn ôl at ymagwedd at reoleiddio sy’n rhy oddefgar at gyrff ac yn rhoi gormod o bwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg drwy ddulliau meddal yn bennaf. 

Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae diffyg gwersi nofio Cymraeg yn fethiant rydym wedi rhoi sylw cyson iddo dros y ddegawd ddiwethaf. Mae’n adlewyrchu’r anawsterau annerbyniol y mae siaradwyr Cymraeg yn dal i wynebu ar lawr gwlad dros Gymru gyfan.

“Mae pwysigrwydd defnyddio’r iaith tu allan i’r ystafell ddosbarth wedi cael ei bwysleisio’n gyson gan wleidyddion a Chomisiynydd y Gymraeg. Er hynny, mae methiant parhaus y Comisiynydd i orfodi’r safonau sy’n rhoi’r hawl sylfaenol i blant a phobl ifanc Cymru gael gwersi nofio yn Gymraeg, gan wasanaethau sy’n cael eu hariannu gan y wladwriaeth, yn gwbl gywilyddus.

“Mae ein gwaith ymchwil wedi datgelu diffyg cydymffurfiaeth lawn gan bob awdurdod lleol. Yn hytrach na galw ar bobl gyffredin i ‘Ddefnyddio eu Cymraeg’ pan nad yw’r ddarpariaeth yn aml yn bodoli, mae’n hen bryd i’r Comisiynydd ddefnyddio ei phwerau gorfodi o ddifrif.

“Mae ein galwadau yn glir: dim mwy o esgusodion a dim mwy o oedi. Mae’n rhaid i’r Comisiynydd ddefnyddio ei phwerau gorfodi a sicrhau hawliau plant a phobl ifanc Cymru i’r Gymraeg. ”

Pob newyddion