Profiadau plant yn cadarnhau diffyg gwersi nofio Cymraeg

2026-05-29

Cartref > Newyddion > Profiadau plant yn cadarnhau diffyg gwersi nofio Cymraeg

Mae arolwg yn ystod Eisteddfod yr Urdd o brofiad plant a phobl ifanc o wersi nofio wedi cadarnhau nad oes digon o blant a phobl ifanc ar draws Cymru yn gallu derbyn gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith waith ymchwil yn dangos methiant parhaus awdurdodau lleol a rhai sefydliadau cysylltiedig ledled y wlad i gynnig a darparu gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg, er bod hawliau clir wedi’u sefydlu gan Safonau’r Gymraeg ers 2016. Mae’r Gymdeithas wedi cyflwyno cwyn ffurfiol i Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch y mater, ac wedi galw arni i ddefnyddio ei phwerau gorfodi i sicrhau hawl holl blant a phobl ifanc Cymru i ddarpariaeth Gymraeg. 

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, bu’r Gymdeithas yn cynnal arolwg trwy gasglu profiadau personol plant Cymru o wersi nofio. Gofynnwyd i’r rhai sy’n derbyn gwersi nofio roi pêl mewn pwll nofio bach, gyda lliw’r bêl yn cyfateb ag iaith y gwersi maent yn eu derbyn. Mae’r canlyniadau’n dangos darlun anghyson ar draws Cymru, mewn sawl ardal mae mynediad at wersi nofio Cymraeg yn ddibynnol ar argaeledd staff, mae’r dewis o wersi yn fwy cyfyngedig a dydy rhai ardaloedd ddim yn eu darparu o gwbl. 

Meddai Siân Howys, is-gadeirydd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r profiadau rydym wedi eu casglu’n uniongyrchol gan blant a phobl ifanc yn cadarnhau ein gwaith ymchwil ni, sef nad oes digon ohonynt yn derbyn gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r canlyniadau’n dangos darlun anghyson ar draws Cymru, gyda rhai ardaloedd ddim yn darparu gwersi Cymraeg o gwbl. O ystyried bod deng mlynedd ers i Safonau’r Gymraeg ddod yn weithredol, mae hyn yn annerbyniol.

“Mae nofio yn sgil sy’n hanfodol mewn bywyd, a does yna fawr o bwrpas, yn ein barn ni, ddweud wrth plant i ‘ddefnyddio eu Cymraeg’ pan nad yw’r cyfleoedd y dylai fod ar gael iddynt i wneud hynny. 

“Rydym yn galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio ei phwerau gorfodi a sicrhau hawliau plant a phobl ifanc Cymru i’r Gymraeg. Gallwn ni ddim fforddio mwy o esgusodion ac oedi pellach.”

 

Pob newyddion