Pryderon am Clic S4C wedi cytundeb iPlayer
2026-01-16
Cartref > Newyddion > Pryderon am Clic S4C wedi cytundeb iPlayer
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon ynghylch effaith y cytundeb newydd rhwng S4C a BBC iPlayer ar wasanaeth digidol Clic S4C.
Pryder pennaf y Gymdeithas yw’r perygl y gallai’r trefniant newydd hwn arwain at ddadflaenoriaethu Clic, sef yr unig wasanaeth ffrydio sydd wedi’i gynllunio’n llwyr o amgylch y Gymraeg a’i chynulleidfaoedd. Mae’r mudiad yn honni bod dibynnu ar iPlayer yn peri risg sylweddol, gan ei fod yn golygu colli rheolaeth dros ddata am ddefnydd a'r algorithmau sy'n dethol a darparu cynnwys, ynghyd â thanseilio lluosgrwydd ac annibyniaeth S4C.
Dywedodd Mirain Owen o Gymdeithas yr Iaith:
“Wrth reswm rydyn ni’n falch y bydd cynnwys Cymraeg yn cael lle mwy amlwg ar y we, ond mae peryglon o ran lluosgrwydd, annibyniaeth a chynaliadwyedd S4C wrth ddilyn y trywydd hwn. Mae Clic yn llawer mwy na gwasanaeth ffrydio, hi ddylai fod brif gartref digidol teledu Cymraeg. Os ydyn ni o ddifrif am ddyfodol y Gymraeg yn y byd digidol, rhaid sicrhau bod gan Clic ddyfodol clir, gyda’r adnoddau a’r flaenoriaeth briodol. Ni ddylai amlygrwydd ar blatfformau eraill ddod ar draul annibyniaeth na seilwaith digidol y Gymraeg. Ni ddylai cofleidio'r byd aml-lwyfan olygu bod y sianel Gymraeg yn anwybyddu ei phlatfform cynhenid.
“Mae’n egwyddor sylfaenol bod gan y Gymraeg ei seilwaith digidol ei hun: un sy’n annibynnol, amlwg ac yn cael ei reoli yn unol ag anghenion siaradwyr Cymraeg o bob cefndir. Dylai’r Gymraeg gael bod yn brif iaith llwyfan digidol pwrpasol, nid yn is-gategori o fewn platfform Prydeinig sydd yn Seisnig ei hanfod.
"Mae hefyd cwestiwn pwysig i'w ofyn am elfennau o strategaeth ‘digidol yn gyntaf’ y sianel sy'n awgrymu na fydd mwy a mwy o gynnwys S4C yn Gymraeg ar gael i wylwyr trwy Clic o gwbl. Yn hytrach mae'r sianel bellach yn comisiynu rhaglenni a fideos yn benodedig ar gyfer platfformau corfforaethol fel YouTube a TikTok.
“Rydym hefyd yn nodi bod y cyhoeddiad am iPlayer yn tanlinellu’r angen brys i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. Heb rym deddfwriaethol clir dros ein seilwaith cyfryngau ein hunain, bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn agored i benderfyniadau a blaenoriaethau gwleidyddion a darlledwyr mawr yn Llundain. Mae’n bryd symud y tu hwnt i drefniadau partneriaeth ansicr, a sicrhau bod amlygrwydd y Gymraeg yn hawl statudol ar bob sgrin ac ar draws platfformau digidol.
“Rydym yn galw ar S4C i roi ymrwymiad clir a chyhoeddus y bydd Clic yn parhau’n brif gartref digidol teledu Cymraeg, gyda lefel o fuddsoddiad, datblygiad a gwelededd sy’n cyfateb i unrhyw bartneriaeth allanol. Mae cynyddu gwelededd yn bwysig, ond ni ddylai hynny ddigwydd ar draul annibyniaeth na seilwaith digidol y Gymraeg.”