Rali dros enw uniaith Gymraeg i’r Senedd

Cynhaliodd ymgyrchwyr  rali ym Mae Caerdydd dros y penwythnos o blaid enw uniaith Gymraeg i’r Senedd, cyn pleidlais ar y mater yr wythnos nesaf. 

Bydd gwleidyddion yn pleidleisio am y tro olaf ar y Bil Senedd ac Etholiadau sy’n ail-enwi’r Cynulliad wythnos nesaf. Ymysg y siaradwyr yn y rali oedd y bargyfreithiwr Jolyon Maugham, Bethany Celyn, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Bethan Ruth, a Jacob Morris o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd.  

Yn siarad yn y rali, dywedodd Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

Mae egwyddor o bwys aruthrol yn y fantol yn y ddadl hon sy’n mynd tu hwnt i enw ein Senedd genedlaethol yn unig. Mae’n gwestiwn am le’r Gymraeg yn ein bywyd cyhoeddus. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld mwy a mwy o ymosodiadau ar ddefnydd y Gymraeg, yn enwedig achos twf yr adain dde eithafol. Mae llawer iawn gormod o bobl yn dadlau neu’n derbyn nad yw defnydd y Gymraeg yn gynhwysol. Mae gyda ni gyfle i ddangos gydag enw uniaith i’r Senedd bod yr iaith yn cynnwys pawb ac anfon neges am ei statws arbennig yng Nghymru.

Mae’r rhan helaeth o bobl Cymru yn cefnogi, yn dathlu ac yn mwynhau pethau uniaith Gymraeg, drwy eiriau’r anthem genedlaethol er enghraifft. Rydyn ni o’r farn bod ‘Senedd’ yn enw a all ein huno ni i gyd, ac mae’n amlwg bod y cyhoedd yn cytuno hefyd. Os gall pawb ddweud ‘Dáil’ neu ‘Bundestag’ heb yr angen am enw swyddogol Saesneg - pam na allwn ni wneud yr un peth gyda ‘Senedd’? Galwn ar ein gwleidyddion i ddangos hyder yn iaith unigryw Cymru a hyder yn holl bobl Cymru.”