Rali dros Ysgol Gymraeg yn Grangetown - datganiad o gefnogaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhyddhau datganiad o gefnogaeth ar gyfer y rali dros ysgol Gymraeg yn Grangetown, Caerdydd.

Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Dros y misoedd diwethaf, mae wedi dod yn gwbl amlwg nad yw Cyngor Caerdydd yn gwybod beth maent yn ei wneud. Rhaid galw ar y cyngor i ail-ystyried y cynlluniau yma, gan sicrhau bod y cyngor yn gweithredu’r cynllun iaith ac yn ateb y galw cynyddol sydd am addysg Gymraeg. Mae'r galw am addysg Gymraeg wedi cynyddu gymaint fel ei fod yn dod o bob cymuned yn y ddinas. Yn amlwg, ni fyddai
ateb cyflym y cyngor, sef ymestyn Ysgol Pwll Coch yn ateb y galw hwn. Rhaid cael
ysgol Gymraeg ym mhob cymuned yn y ddinas er mwyn ateb y galw am yr hawl
sylfaenol hyn."