Rali Troi’r Llanw cyn datganiad pwysig yn y Senedd
2026-06-29
Cartref > Newyddion > Rali Troi’r Llanw cyn datganiad pwysig yn y Senedd
Bydd Cymdeithas yn cynnal rali am 1pm Sadwrn nesaf (4/7) yn Stadiwm Y Traeth, Clwb Pêl-droed Porthmadog, i alw ar y llywodraeth newydd i "droi'r llanw dros y Gymraeg" wedi degawdau o ymgyrchu. Daw'r rali tri diwrnod cyn y bydd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan, yn gwneud datganiad yn y Senedd (Dydd Mawrth, 7/7) ar flaenoriaethau'r llywodraeth yn y maes.
Dywedodd Dr Jeff Smith, ar ran y Gymdeithas:
“Ar ôl dros 60 blynedd o ymgyrchu ac ennill consesiynau o ran y Gymraeg, mae gwir gyfle o'r diwedd fod llywodraeth ym Mae Caerdydd sy'n deall fod angen gweithredu radicalaidd, i droi'r llanw o blaid y Gymraeg gan fod yr iaith o bwys i bawb yng Nghymru. Bu cynnydd mewn addysg Gymraeg a dysgwyr o'r iaith, ac enillwyd rhagor o hawliau i unigolion ddefnyddio'r Gymraeg. Ond mae perygl gwirioneddol i ni golli llawer o'n cymunedau Cymraeg yn ystod y tymor seneddol hwn.”
Ychwanegodd:
“Disgwyliwn i'r llywodraeth felly weithredu'n radicalaidd ac ar frys. Mae angen llunio Deddf Eiddo a fydd yn ail-osod natur y system eiddo yng Nghymru, yn sicrhau nad yw’r farchnad leol yn cael ei llethu gan y farchnad rydd, a chreu system gynllunio gofodol sy’n gweithio o’r gwaelod i fyny, yn diwallu angen lleol ac o blaid y Gymraeg.
“Yr hyn sy'n allweddol i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg yw i'r llywodraeth dderbyn a gweithredu argymhelliad allweddol y Comisiwn Cymunedau Cymraeg - i ddynodi ardaloedd o ddwysedd siaradwyr Cymraeg gan dderbyn y trothwy a argymhellwyd o 40% o siaradwyr Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021 - ynghyd â hyblygrwydd i ychwanegu cymunedau cyffiniol. Bydd hyn yn datgloi cyfres o gamau polisi y gellir yn rhesymol eu gweithredu yn yr ardaloedd hyn i sicrhau cartrefi a gwaith i bobl yn eu cymunedau.”
Ar ddiwedd y rali - a fydd yn clywed gan Dafydd Iwan, Mici Plwm, Gwyneth Glyn, Cleif Harpwood a chynrychiolwyr cymunedol - disgwylir fersiwn Porthmadog o'r "Mexican Wave". Dengys ‘Ton o Alwad ar y Llywodraeth’ wrth fod y dorf yn sefyll ar hyd ystlys y cae pêl-droed, ac yn codi cardiau coch yn eu tro, yn galw am droi'r llanw dros y Gymraeg.