Camau Nesaf Ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth

Disgwylir cannoedd o bobl yn rali "Nid yw Cymru ar Werth" tu allan i swyddfeydd Cyngor Ynys Môn yn Llangefni am 1pm ddydd Sadwrn.

Esboniodd Jeff Smith o grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Yn y rali byddwn yn lansio cam nesaf ein hymgyrch. Mae'r Llywodraeth yn amlwg yn gwrando ar y miloedd o bobl sydd wedi dod i ralïau, ymateb i ymgynghoriadau ac ymgyrchu i sicrhau cartrefi i bobl leol yn eu cymunedau. Cyhoeddwyd y bydd gan Awdurdodau Lleol rymoedd newydd i leihau effaith o ail dai a llety gwyliau mewn yn eu hardal, felly cam nesaf yr ymgyrch i ni nawr yn pwyso ar Awdurdodau Lleol i ddefnyddio'r grymoedd fydd ganddynt yn llawn. Ond bydd rhaid i Awdurdodau Lleol weithredu yn syth er mwyn cael dylanwad ar y farchnad dai yn 2023."

Bydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol:
1) Cychwyn ymgynghoriad o fewn yr wythnosau nesaf ar lefel y premiwm treth cyngor ar ail gartrefi er mwyn codi'r lefel erbyn Ebrill nesaf, fel arall bydd yn raid aros am flwyddyn i wneud;
2) Paratoi i basio cynnig "Erthygl 4" i sicrhau fod yn rhaid gwneud cais cynllunio er mwyn newid prif gartref yn ail gartref neu'n llety gwyliau. Mae'n fater brys gan fod y llywodraeth wedi addo cyflwyno is-ddeddfwriaeth sefydlu'r tri dosbarth cynllunio (prif gartref, ail gartref a llety gwyliau) yn yr hydref hwn
3) Mynd ati'n syth - fel sy wedi digwydd yng Ngwynedd - i ymchwilio a sefydlu achos cadarn dros gymryd y camau hyn i fynd i'r afael â'r broblem bod ail gartrefi a llety gwyliau'n broblem sy'n amddifadu pobl leol o gartrefi. Heb yr ymchwil, byddant yn agored i heriau cyfreithiol."

Ychwanegodd Jeff Smith: "Byddwn yn datgan siom hefyd fod Llywodraeth Cymru'n llusgo ei thraed ar y mater. Dydy'r Llywodraeth ddim wedi anfon unrhyw ganllawiau at Awdurdodau Lleol ar sut i weithredu'r grymoedd, na chyhoeddi cyllid i'w galluogi i fynd at yr holl waith fydd ei angen.
"Ar ben hynny, does dim sôn eto am yr is-ddeddfwriaeth i sefydlu dosbarthiadau cynllunio, sydd wedi ei addo ar gyfer yr hydref, a does dim penderfyniad hyd yn oed am bwy sydd i greu'r gofrestr o Lety Gwyliau. Byddwn yn galw ar y Llywodraeth i symud yn gynt ar y materion hyn gan fod cymunedau lleol yn colli eu stoc tai'n wythnosol. Rydyn ni'n falch felly bod arweinydd Cyngor Môn a dau gynghorydd sir ac yn gallu bod gyda ni yn y rali i ym uno â'r alwad."