Reform yn deall dim am Gymru
2026-03-05
Cartref > Newyddion > Reform yn deall dim am Gymru
Wrth gyhoeddi maniffesto Reform heddiw (dydd Iau, 5 Mawrth), dywedodd Nigel Farage a Dan Thomas bod y blaid am ddiddymu’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 am fod yr iaith “yn ffynnu”, sydd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, yn dangos nad yw’r blaid yn deall dim am Gymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan pryderon am gynlluniau “hynod o beryglus” Reform ar gyfer y Gymraeg a chymunedau Cymru.
Yn ogystal, mae amheuaeth dros ddyfodol swyddfa Comisiynydd y Gymraeg dan arweinyddiaeth Reform.
Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“O ystyried mai dim ond 17.8% o boblogaeth Cymru sydd yn medru siarad Cymraeg, a’r ganran o siaradwyr wedi cwympo’n gyson dros y ddau gyfrifiad diwethaf i’r ffigwr isaf erioed, mae’r ffaith fod Nigel Farage yn credu fod y Gymraeg yn ffynnu yn dangos ei anwybodaeth llwyr. Wrth gwrs, nid fydd Farage yn ymgeisydd yng Nghymru nac yn atebol i bobl Cymru.
“Yr unig bolisi gan y blaid sy’n ymwneud efo’r Gymraeg yw i ddileu’r targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050, gan diddymu’r hyn o gefnogaeth sydd eisoes yn bodoli ar gyfer yr iaith. Ar ben hynny, nid oes unrhyw son am y Gymraeg mewn unrhyw adran arall o’r maniffesto.
“Mae’n amlwg nad oes gwir ddiddordeb gan y blaid yn y Gymraeg na’n cymunedau, a byddai’r ddau dan berygl enfawr dan lywodraeth Reform UK.”