Rhybudd yn erbyn colli ein cymunedau fesul ychydig

bawd_deddf_eiddo.jpgBydd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd, yn dweud wrth gyfarfod cyhoeddus a drefnir gan gymuned leol Waungilwen heno fod perygl i ni golli ein cymunedau Cymraeg fesul ychydig.

Mae pentrefwyr wedi trefnu Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre, i wrthwynebu cais am ganiatad cynllunio i adeiladu tai ym mhentref Waungilwen. Wrth annerch y cyfarfod bydd Angharad Clwyd yn dweud:"Mae gwrthdrawiad gwerthoedd yma. Mae'r gymuned leol yn gweld tai fel cartrefi, lle mae datblygwyr yn eu gweld nhw fel adnoddau i wneud elw. Maent o hyd yn ceisio gwneud y defnydd mwyaf posibl o'u hasedau drwy strategaeth o adeiladu fesul ychydig.""Mae'r Gymdeithas yn gweld fod angen rhai tai fforddiadwy mewn nifer o gymunedau ond yn achos Waungilwen rydym yn gofyn ar y Cyngor Sir i fod yn ddigon dewr i wrthwynebu'r cais yn llwyr oherwydd y broblem llifogydd sydd yn bodoli yn y pentref. Mae'n amlwg y bydd gorchuddio'r caeau yma â choncrid yn ychwanegu at y broblem llifogydd yn ddirfawr. Fe fyddai rhoi caniatad i'r cais yma, felly, yn mynd yn groes i amcan corfforaethol y Cyngor o sicrhau cymunedau cynaladwy, sef creu sefyllfa o beryglu cymuned drwy ychwanegu at y problemau yma. Mae profiad yr wythnos ddiwethaf wedi tanlinellu'r ffaith nad yw'n gall fynd yn groes i'r amcan yma.""Y broblem sydd yn wynebu trigolion Sir Gâr yw nad ydynt yn gwrthwynebu Cynlluniau Sirol, dim ond datblygiadau penodol. Fe fydd Cynllun newydd yn dod i rym yn 2011 sef y Cynllun Datblygu Lleol ac yn cymeryd lle y Cynllun Datblygu Unedol. Rydym yn mynd i bwyso ar y Cyngor Sir i ymgynghori ym mhob pentref ar ngynnwys y cynllun yma."