Rhybuddio Cabinet Ceredigion bod sail cynigion i ymgynghori ar gau 4 ysgol wledig Gymraeg yn “anghywir”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at aelodau Cabinet Cyngor Ceredigion o flaen penderfyniad yfory (3 Medi) i awdurdodi ymgynghoriad ar gau 4 ysgol Gymraeg wledig yn y sir, yn eu rhybuddio bod “holl sail y papurau cynnig yn anghywir.”

Yn ôl y mudiad mae methodoleg y cynigion yn mynd “yn hollol groes” i Gôd Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, sy’n mynnu ystyriaeth fanwl i bob opsiwn heblaw am gau tra bod cynigion ar ddyfodol ysgolion ar gam ffurfiannol.

Amlinellwyd yn llythyr y Gymdeithas i’r aelodau cabinet sawl opsiwn nas ystyriwyd yn y papurau cynnig, er enghraifft trosglwyddo adeiladau at ymddiriedolaethau cymunedol, neu sefydlu ffederasiwn neu ysgol aml-safle fyddai’n cwmpasu sawl ysgol.

Mae’r llythyr gan Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith at aelodau o Gabinet Cyngor Ceredigion yn dweud:

“Does dim rhaid trafod heddiw ddim o’r opsiynau amgen hyn eu hunain – dim ond eich bod yn penderfynu fod nifer o opsiynau nad sydd wedi eu trafod cyn llunio’r Papur Cynnig, ac felly na ddylid cynnal ymgynghoriad statudol ar sail y Papurau Cynnig hyn.”

Beirniedir hefyd amharodrwydd y Cyngor i drafod yn agored â rhanddeiliaid cyn llunio chynigion:

“Mae’r ysgolion wedi bod yn galw am ffeithiau ac am drafodaethau difrifol am eu dyfodol ers y cyfarfodydd annisgwyl cyntaf y cawsant wysion i’w mynychu. Dywedwyd wrth Gymdeithas yr Iaith ar ddechrau’r haf y byddai’r swyddogion yn ystyried ein cynigion ac ymateb. Ond ers hynny bu tawelwch llwyr.

“Nawr mae gofyn i chi awdurdodi 6 wythnos o ymgynghori ar gynnig a luniwyd gan y swyddogion heb ymdrafod, a gofynnir i ysgolion gyfiawnhau eu bodolaeth. Mae ffordd well ymlaen na hyn.”