Sianel Gymraeg newydd ar yr awyr - Sianel62

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd - "Sianel 62" - penwythnos hon (8yh, Dydd Sul, 19eg Chwefror) fel rhan o'u dathliadau hanner canmlwyddiant.

Sianel 62 fydd y sianel Gymraeg newydd gyntaf ers 30 mlynedd pan fydd yn mynd ar yr awyr ar sianel62.com ddydd Sul yma. Bwriad y Gymdeithas yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh.

Yn ôl y trefnwyr y gobaith yw y bydd y sianel yn "llai fel Noson Lawen ac yn fwy o Noson Chwyldroadol". Mae'r Gymdeithas wedi sefydlu dau hwb i'r sianel, yng Nghaerdydd a Chaernarfon, ar gyfer y prosiect a darperir hyfforddiant ac offer i bobl sydd am gyfrannu ati.

Dywedodd Cydlynydd Sianel 62 Greg Bevan:

"Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd. Mi fydd y sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol."

"Sianel 'ifanc ei naws' fydd hi a phobol gyffredin yn y gymuned fydd yn datblygu'r syniadau a chynhyrchu'r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol. Wrth gwrs, gall sianel deledu fod yn fecanwaith dylanwadol a phwerus iawn, felly mae hwn yn gyfle digynsail i sefydlu'r strwythurau i rywbeth gall fod yn ganolog i waith y Gymdeithas am flynyddoedd i ddod. Mae llwyddiant y fenter yn ddibynnol ar bobl yn cyfrannu, felly cysylltwch gyda ni os gallwch fod o gymorth - greg@cymdeithas.org."

Ychwanegodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Bydd y sianel yn llai fel 'Noson Lawen' ac yn fwy o Noson Chwyldroadol, gobeithio. Mae'n fenter gyffrous iawn, ac mae 'na groeso i unrhyw un gymryd rhan. Fe fydd lleisiau a chynnwys gwleidyddol a dychanol na allwch weld ar y sianeli teledu presennol. Bydd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu ein hanner canmlwyddiant yn cael eu darlledu, gan fod y sianel yn gyfle arall i ddiolch i'r holl bobl sydd wedi ymgyrchu dros yr iaith dros y degawdau."

Disgwylir i'r darllediad cyntaf gynnwys hanes teulu Caerdegog yn Ynys Môn, clipiau comedi, Tynged yr Iaith II a cherddoriaeth gan fandiau y bydd yn perfformio yn yr wyl Hanner Cant ym Mhontrhydfendigaid ym Mis Gorffennaf ymysg pethau eraill.