Targedu tai haf Môn

Mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri ar dai haf yn Rhosneigr ar Ynys Môn yn datgan "Nid yw Cymru ar Werth". 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar Gyngor Môn i chwarae rhan yn niogelu cymunedau'r ynys trwy gynyddu lefel premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi. Fe wnaeth y Cyngor benderfynu yn 2019 y byddai'n codi 75% o bremiwm ar dreth y cyngor ar ail dai. Ers hynny mae'r Llywodraeth wedi  newid y rheoliadau a gall Awdurdodau Lleol godi hyd at 300% o bremiwm, a gallant roi mesurau mewn lle i fynnu caniatâd cynllunio i newid cartref yn ail dŷ.

Bydd Cabinet Cyngor Môn yn cyfarfod ddydd Mawrth (29/12) i gymeradwyo adroddiad ar Dreth y Cyngor ar gyfer 2023/24. Mae'r adroddiad yn cadarnhau'r penderfyniad a wnaeth yn 2019 i godi 75% o bremiwm treth cyngor ar ail dai.

Dywedodd Osian Jones ar ran ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth:
"Mae'r rheolau a'r sefyllfa tai wedi newid ers i'r Cyngor wneud y penderfyniad gwreiddiol i godi 75% o bremiwm treth cyngor ar ail. Mae 2,208 o dai yr ynys yn cael eu hystyried yn ail dai, sy'n 9% o stoc tai y sir, felly mae angen i'r cyngor ddefnyddio'r cyfle wythnos nesaf i roi mesurau mewn lle nawr i leihau'r broblem, trwy godi premiwm treth y cyngor ar gyfer ail dai.
"Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud digon chwaith - mae wedi bod yn araf i roi canllawiau i gynghorau am eu grymoedd newydd, a does dim sôn o hyd am arian nac adnoddau ar gyfer y gwaith ychwanegol fydd gan gynghorau."

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod er hynny mai dim ond rhan o'r broblem yw ail dai. Mae prisiau tai ar gyfartaledd yn £275,635 tra mai £27,124 yw'r cyflog cyfartalog. Mae'r mudiad yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn rheoleiddio'r farchnad tai.

Ychwanegodd Osian Jones:
"Tra bod ein cymunedau yn colli stoc tai a phobl leol yn gorfod gadael eu cymunedau dydy'n cynghorau na'r Llywodraeth ddim yn gwneud digon, nac yn gweithredu'n ddigon sydyn. Byddwn ni'n defnyddio rali Nid yw Cymru ar Werth yn Llanrwst ar Ragfyr 17 i bwyso ar gynghorau ar draws Cymru i wneud defnydd llawn o'r grymoedd sydd ganddyn nhw i fynd i'r afael â phroblem ail dai, yn ogystal â galw arnyn nhw i bwyso am Ddeddf Eiddo gyflawn fydd yn rheoleiddio'r farchnad tai."