Swyddogion Addysg yn chwerthin am ben pobl Sir Gar

cyngor_sir_caerfyrddin.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Swyddogion Addysg Sir Gaerfyrddin o chwerthin am ben cynghorwyr etholedig a phobl Sir Gâr trwy gyhoeddi fod y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar gynllun pwysig a dyddiad cyhoeddi'r cynllun terfynol ar yr un dydd - a hwnnw'n Wyl Banc !

Mae Cynllun Trefniadaeth Ysgolion y Sir yn bygwth parhad pob ysgol sydd â llai na 90 o blant - sef dros hanner holl ysgolion cynradd y sir, a mwyafrif mawr yr ysgolion Cymraeg. Mae unrhyw ymateb neu wrthwynebiad i fod i gyrraedd y Swyddfa Addysg erbyn Mai 3ydd, ac ni ddisgwylir unrhyw ystyriaeth o'r ymateb gan fod bwriad i fabwysiadu'r Cynllun yn derfynol yr un dydd. Mai 3ydd yw Dydd Llun Gwyl Banc Calan Mai, a bydd y Swyddfa Addysg ar gau y diwrnod hwnnw !!Yn ei hymateb i'r Cynllun-drafft (copi yn yr atodiad), dywed Cymdeithas yr Iaith fod y Cynllun -

  • am y tro cyntaf yn cyhoeddi rhagdyb yn ffurfiol yn erbyn ysgolion gyda llai na 90 o blant - yn gwbl groes i bolisi Adran Addysg Lloegr sydd â rhagdyb o blaid.
  • Yn gosod llwyddiant academaidd yr ysgolion yn ffactor eilradd - " school performance can be a factor " - tra'n dweud mai cyllid yw'r " over-riding argument ". Dadleua'r Gymdeithas felly fod yn rhaid gwrthod y Cynllun gan nad cynllun addysg ydyw.
  • Fod y Cynllun yn gwbl groes i Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ei hun sydd ag amcan strategol o " hybu'r iaith a chymunedau Cymraeg ". Effaith y Cynllun fyddai tynnu i ffwrdd yr ased pwysicaf sydd gan y mwyafrif mawr o gymunedau Cymraeg y sir.
  • Mae'r Gymdeithas yn galw felly ar Fwrdd Gweithredol y Cyngor i wrthod y Cynllun er mwyn peidio â chlymu dwylo'r Cyngor newydd. Dywed Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar addysg) :"Dylai hwn fod yn bwnc o bwys yn yr Etholiadau Lleol ym Mehefin, a byddwn yn cyhoeddi'r wythnos nesaf ddogfen arloesol newydd yn gosod strategaeth ar gyfer Ysgolion Pentre. Mae'n amlwg fod Swyddogion Addysg Caerfyrddin yn teimlo'n ddigon hyderus bellach i gyhoeddi ymgyrch agored yn erbyn y mwyafrif o'n hysgolion pentrefol Cymraeg, gan nad yw'r cynghorwyr etholedig na Jane Davidson wedi atal unrhyw gynllun o'u heiddo i gau ysgolion a chan nad ydynt erioed wedi newid unrhyw benderfyniad o ganlyniad i ymgynghori cyhoeddus.""Y tro hwn, mae'r swyddogion yn chwerthin am ben y cyhnghorwyr a phobl y sir trwy gyhoeddi y byddant yn derbyn ac ystyried unrhyw ymateb a chyhoedi'r Cynllun terfynol i gyd yr un diwrnod - a hwnnw'n Wyl Banc tra bydd eu swyddfa ar gau ! Galwn ar Fyrddau Llywodraethol a chyrff addysg i ddal ar y cyfle olaf hwn i fynegi eu gwrthwynebiad i'r Cynllun."Stori'r Western Mail