Uno cynghorau Ceredigion yn "peryglu’r Gymraeg"

2026-09-03

Cartref > Newyddion > Uno cynghorau Ceredigion yn "peryglu’r Gymraeg"

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod i drafod pwyso am wrthdroi newidiadau i gynghorau cymuned a thref Ceredigion.

Ddechrau Mai eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn argymhellion Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru i uno cynghorau cymuned a thref Ceredigion i greu wardiau newydd, a lleihau nifer y cynghorwyr o 540 i 366.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y gallai’r newidiadau hyn beryglu’r Gymraeg fel iaith gymunedol gan fod cynghorau sydd yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd yn uno â chynghorau nad ydynt yn gwneud hynny.

Meddai Dr Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, Cymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n hynod o bryderus y byddai’r newidiadau hyn yn peryglu’r Gymraeg nid yn unig ar iaith cyfarfodydd a gwaith nifer o’r cynghorau cymuned ond fel iaith gymunedol. 

“Mae defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth yn effeithio’n fawr ar ddewisiadau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, oherwydd dyna lle mae’r Gymraeg yn cael ei derbyn fel iaith swyddogol, iaith o bwys, iaith bywyd. Os ydyn ni’n colli cynghorau sy’n trafod ac yn gweithio trwy’r Gymraeg, bydd yr iaith yn colli statws, urddas a thir.”  

Roedd dros 200 o ymatebion i ymgynghoriad y Comisiwn Democratiaeth a Ffinau a rhan helaeth y cynghorau tref a chymuned yn gwrthwynebu’r cynigion. Ers hynny mae cynghorau cymuned a thref wedi gohebu gyda’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros Llywodraeth Leol, Siân Gwenllian, a Chyngor Ceredigion. 

Ychwanegodd Dr Jeff Smith:

“Rydyn ni wedi galw ar y Gweinidog â chyfrifoldeb dros Llywodraeth Leol, Siân Gwenllian, i wrthdroi’r newidiadau, ac mae rhai o’r cynghorau cymuned wedi ceisio cynnig atebion. Ond, rydyn ni’n teimlo’r angen i alw pawb ynghyd i gyd-benderfynu ar y camau nesaf i ymwrthod â’r penderfyniad annemocrataidd hwn sydd yn peryglu’r Gymraeg ymhellach yn y Sir.”

Bydd Cyfarfod ‘Ymwrthod â’r Newidiadau i Gynghorau Cymuned a Thref Ceredigion’ yn cael ei gynnal Nos Fawrth, 8 Medi 2026 yn Neuadd Llwyncelyn am 7yh.

Pob newyddion