Y Gymraeg yn y Senedd: Croesawu'r Cabinet Newydd
2026-05-14
Cartref > Newyddion > Y Gymraeg yn y Senedd: Croesawu'r Cabinet Newydd
Wrth groesawu cyhoeddi enwau aelodau cabinet y Llywodraeth newydd, dywedodd Siân Howys, is-gadeirydd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:
"Dyma gyfle i'r cabinet newydd weinyddu drwy'r Gymraeg, a sicrhau bod gan y Gymraeg statws llawn fel iaith gwaith yn y Llywodraeth. Byddai hynny’n rhoi neges glir bod pob hyder gan y Llywodraeth yn nyfodol y Gymraeg, gan greu effaith gadarnhaol ac ymarferol ar unwaith yn ein gweinyddiaeth gyhoeddus.”
“Hoffem longyfarch Anna Brychan yn gynnes ar ei phenodi’n Weinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg. Edrychwn ymlaen i gwrdd â hi’n fuan i drafod gwaith y Llywodraeth newydd. Wrth gwrs, mae’r Gymraeg yn ymestyn i bob maes, ac edrychwn ymlaen felly at gwrdd hefyd â’r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth, a gweinidogion eraill i drafod y Gymraeg a’n cymunedau mewn meysydd ar draws gwaith y Llywodraeth”.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth newydd i weithredu ar draws pob maes polisi er mwyn “troi’r llanw dros y Gymraeg” mewn rali ym Mhorthmadog ar y 4ydd o Orffennaf.
Ychwanegodd Siân Howys fod cynyddu defnydd o’r Gymraeg ar draws y Senedd yn fater hollbwysig ac yn gyfrifoldeb ar bob plaid yn y Senedd:
“Wrth i’r Senedd newydd ddechrau ar ei waith, roedd hi’n bwysig bod Huw Irranca-Davies fel Llywydd newydd wedi cynnal y drafodaeth gyntaf yn Gymraeg. Mae hyn yn arwydd clir bod mwy na statws cyfreithiol gan y Gymraeg. Hyd yma, mae defnydd o’r Gymraeg yn y Siambr ac mewn cyfarfodydd pwyllgor wedi bod yn gyson isel, ac rydyn ni am weld hynny’n newid. Mae angen ei gwneud yn haws i Aelodau ddysgu’r Gymraeg a dod yn fwy hyderus yn eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg.”