Ymunwch â thîm Cymdeithas yr Iaith!

2026-01-16

Cartref > Newyddion > Ymunwch â thîm Cymdeithas yr Iaith!

Mae gan Gymdeithas yr Iaith gyfle cyffrous i unigolyn angerddol a gweithgar ymuno â’n tîm fel Swyddog Polisi.

Prif gyfrifoldeb yr ymgeisydd llwyddiannus fydd i arwain a chydlynu ein gwaith ymchwil, polisi a lobïo ar draws ein meysydd ymgyrchu. Mae hon yn swydd hynod bwysig sy'n ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda blaengar ar gyfer y Gymraeg.

Cyflog: £29,000 - £33,000 y flwyddyn (cyflog cychwynnol yn ddibynnol ar brofiad, gyda'r posibilrwydd o gyflog uwch i ymgeisydd profiadol)

Lleoliad: i’w drafod, ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio yng Nghaerdydd yn achlysurol.

Dyddiad cau: canol dydd, dydd Llun, 2 Chwefror 2026

Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ydyn ni. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ymgeisydd ar sail anabledd, cenedligrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth cymdeithasol, ethnigrwydd, hil, hunaniaeth rhywedd, rhywedd, statws rhianta na chyfrifoldebau gofal. Rydyn ni’n awyddus i gael ceisiadau gan bobl o bob rhan o’n cymunedau, yn enwedig pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, sy’n aml yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi o’r math hwn.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser neu rannu swydd.

Am fwy o wybodaeth am sut i ymgeisio a swydd-ddisgrifiad, cliciwch yma.

Pob newyddion