Yr angen am ymgynghoriad agored trwy'r sir.

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trafod heddiw cychwyn amserlen o ymgynghori lleol a allai arwain at gau yn y pendraw hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio’r holl ymarferiad fel un sy’n sylfaenol ragfarnllyd yn erbyn ysgolion pentrefol ac wedi herio cynghorwyr annibynnol i gefnogi’n hytrach cynnig yn galw am ail-drafod trwy’r sir holl egwyddor sylfaenol y strategaeth o ganoli addysg yn hytrach na chymryd yn ganiataol y cyfeiriad hwn a dechrau bygwth ysgolion unigol.Dywedodd llefarydd gan y Gymdeithas yn y sir ar addysg Aled Davies “Does dim posib y gall ymgynghori am ddyfodol ysgolion unigol fod yn agored a theg gan eu bod yn dibynnu ar yr enillion o werthu’r ysgolion er mwyn cyllido rhan helaeth o’r cynlluniau moderneiddio bondigrybwyll.“Gan na all ymgynghori unigol fod yn rhydd nac yn deg, rydym felly angen trafodaeth ledled y sir ynghylch p’run ai ein bod o ddifrif eisiau dilyn y llwybr o adeiladu ysgolion canolog drud, gan ddinistrio ein cymunedau pentrefol a di-wreiddio ein plant.”PWYSAU AR GYNGHORWYR ANNIBYNNOL“Byddwn yn pwyso ar y cynghorwyr annibynnol yn ystod yr Hydref” medd Aled Davies, “ gan alw arnynt i wneud safiad yn y frwydr dyngedfennol hon am ddyfodol yr ysgolion a’r cymunedau. Byddwn yn gofyn iddynt roi’r cymunedau yn gyntaf ac i gael dewrder i ddweud wrth swyddogion y dylsent ail ystyried eu strategaeth a sicrhau y ceir ymgynghoriad eang ar draws y sir. Yr ydym wedi cysylltu â phob un o’r cynghorwyr gan ofyn iddynt a fyddant yn barod i gefnogi cynnig yn y siambr yn gofyn am roi cyfle i bobl y sir yn gyffredinol drafod holl egwyddor y strategaeth.”Bydd y Gymdeithas yn cynnal Cyfarfod Cyhoeddus ym mis Hydref i gyhoeddi pa gynghorwyr sy’n barod i wneud safiad o’r fath dros eu cymunedau. Bydd y Fforwm (Rhieni a Llywodraethwyr) Ysgolion Cynradd hefyd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus trwy’;r sir ym Mis Hydref i drefnu gwrthwynebiad i’r strategaeth yn lle gadael i ysgolion unigol gael eu difa fesul un.