Ysgolion gwledig bach yn 'Gymunedau Gofalgar'
2026-02-04
Cartref > Newyddion > Ysgolion gwledig bach yn 'Gymunedau Gofalgar'
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi ymdrech Ysgol Bentre Gymraeg Meidrim yn Sir Gar i gael sicrwydd am ei dyfodol, a chydnabyddiaeth i nifer o ysgolion gwledig bach fel ‘Cymunedau Gofalgar’.
Mae Tommy Webber yn ddisgybl yn Ysgol Meidrim, sy’n byw gyda chyflwr genetig prin, sef Bloom Syndrome. Mae’r cyflwr yn achosi anghenion meddygol ac addysgol cymhleth, ac ef yw’r unig blentyn yng Nghymru â’r cyflwr hwn.
Mae’r cyngor clinigol a roddwyd i’r ysgol yn nodi fod parhad, trefn a pherthnasau dibynadwy yn hanfodol i Tommy, a gallai unrhyw darfu – gan gynnwys newid ysgol, teithiau dyddiol hirach a staff anghyfarwydd – effeithio’n negyddol ar ei iechyd, lles a’i gynnydd addysgol. Fel ysgol bentre fach a sefydlog, mae Ysgol Meidrim wedi llwyddo i ddiwallu’r anghenion hyn a darparu cymorth cyson a phersonol iddo. Yn ddiweddar, cafodd ymgynghoriad statudol ei agor gan Gyngor Sir Gâr (16 Ionawr) ar gynnig i gau’r ysgol.
Ar ran Rhanbarth Caerfyrddin, Cymdeithas yr Iaith, dywedodd Sioned Elin:
“Mae stori Tommy yn enghraifft o wirionedd mwy cyffredinol fod ysgol wledig fach yn hafan ddiogel i blant ag anghenion arbennig, lle mae addysg yn blentyn-ganolog ac mae disgyblion yn cael eu derbyn fel aelodau o gymuned Gymraeg ofalgar. Yn yr un ysgol mae merch sy'n fyddar, ac mae gweddill y disgyblion wedi dysgu tipyn o Iaith Arwyddion i gyfathrebu, gan ddangos bod gwerth addysgol yn hyn i’r plant i gyd.”
Ychwanegodd:
“Yn ogystal, mae stori Tommy yn pwysleisio nad oes modd asesu effaith cau ysgolion yn seiliedig ar ffigurau a chyllid yn unig, ac mae’n rhaid ystyried os yw darpariaeth amgen wirioneddol yn medru diwallu anghenion plant sy’n ddibynnol ar amgylchedd sefydlog a chyfarwydd.”