Crys-T Tafod (oedolion)
£20
Y crys-t clasurol! Logo’r Gymdeithas ar grysau-T cotwm organig carbon niwtral wedi’u cynhyrchu trwy ddefnyddio ynni gwyrdd adnewyddadwy.
Roedd gennym dau liw newydd yn barod erbyn Steddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024 – coch a melyn. Roedd gennym dau fersiwn newydd ar gyfer 2025 – crys gwyn gyda logo'r tafod mewn print llewpart a chrys du gyda thafod gwyn.
Mae’r crysau ar gael mewn meintiau bach, canolig, mawr, mawr iawn (XL) a mawr iawn iawn (XXL), gyda'r crys du a choch hefyd ar gael yn XS! Noder taw stoc bach sy'n weddill nawr ac felly nid yw pob maint ar gael. Byddwn yn ail-archebu yn y flwyddyn newydd – pa liwiau fyddech chi'n hoffi eu gweld?




