Ymgyrchoedd Addysg Gymraeg

Cartref > Ymgyrchoedd Addysg Gymraeg

Yn eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd eleni, ymrwymodd Plaid Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg i o leiaf 50% o holl blant Cymru petaen nhw’n cael eu hethol i redeg Llywodraeth Cymru.

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi eu bod am ymgynghori ar darged fod 50% o blant blwyddyn un yn unig yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ymhen 23 mlynedd. Byddai hyn yn dro pedol ar un o’r addewidion pwysicaf o ran y Gymraeg y gwnaethon nhw i bobl Cymru.

Anfonwch y neges isod at yr Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd sy’n eich cynrychioli chi i ofyn iddyn nhw bwyso ar Anna Brychan AS, fel y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, i fynnu ei bod hi’n cadw at ei gair.

Noder y bydd eich cyfeiriad post ac ebost yn cael eu cynnwys yn y neges i'r Aelodau o'r Senedd.

Cynnwys y Neges

PWNC: Addysg Gymraeg – Cadwch at eich gair

Annwyl [Enw Aelod o’r Senedd],

Ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd eleni, roedd addewid clir i gynyddu’r gyfran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar draws ein gwlad i o leiaf 50% erbyn 2050 petai’r Blaid yn cael ei hethol i redeg Llywodraeth Cymru. Dyma un o’ch ymrwymiadau polisi pwysicaf yn ymwneud â’r iaith ac un sy’n adlewyrchu’r hyn mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu drosto yn y Senedd ac mewn areithiau a datganiadau cyhoeddus yn gyson ers blynyddoedd.

Rydw i’n pryderu’n fawr felly am ddatganiad gan Anna Brychan AS, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, yn y Senedd ar ddydd Mawrth, 1 Rhagfyr, o’i bwriad i gefnu ar y polisi a gwanhau’r targed yn sylweddol i 50% o blant blwyddyn un yn unig erbyn 2050. Byddai hyn yn golygu parhau i dderbyn sefyllfa lle bydd llai na hanner holl blant Cymru yn cael addysg Gymraeg ymhen 23 mlynedd o nawr. 

Yn ogystal â dangos diffyg uchelgais difrifol, mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn mynd yn groes i’r holl ymdrechion dros y blynyddoedd diwethaf gan rieni, ymgyrchwyr a sefydliadau addysg i gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ac mae’n tanseilio hygrededd ac ymarferoldeb nod y Llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Byddai hefyd yn torri un o addewidion pwysicaf Plaid Cymru ar gyfer adfer sefyllfa’r Gymraeg yn ogystal â golygu bod polisi’r Llywodraeth bresennol ar ehangu addysg Gymraeg yn wannach nag un y Llywodraeth Lafur flaenorol.

Mae consensws clir yma yng Nghymru – sy’n gyson â dealltwriaeth ryngwladol o ran ieithoedd lleiafrifedig – mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau y gall plentyn ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg beth bynnag fo’u cefndir ieithyddol. Ar hyn o bryd, dim ond un ym mhob pum plentyn yng Nghymru sy’n derbyn yr hawl yma tra bod y mwyafrif helaeth yn cael eu hamddifadu o’r Gymraeg a’r holl gyfleoedd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd sy’n dod yn sgil hynny.

Fel fy nghynrychiolydd etholedig, gofynnaf felly i chi bwyso ar Anna Brychan AS i gadw at yr addewid yma wnaeth Plaid Cymru i bobl Cymru fis Mai eleni, sydd mor bwysig ar gyfer cryfhau dyfodol y Gymraeg a sicrhau hawl plant Cymru i ruglder yn eu hiaith genedlaethol. Rydych wedi cael eich ethol ar sail y maniffesto a gyhoeddwyd cyn yr etholiad, ac mae pobl Cymru yn disgwyl i Blaid Cymru gadw at ei gair.