Dysgwyr
Mudiad sy'n gweithio i ddiogelu'r iaith Gymraeg yw Cymdeithas yr Iaith. Mae'n croesawu dysgwyr fel aelodau.
Mae gan Gymdeithas yr Iaith Swyddog Dysgwyr sy'n gweithio gyda phwyllgor i drefnu gweithgarwch i ddysgwyr ar hyd y flwyddyn (manylion yn y tudalen digwyddiadau). Mae croeso i aelodau newydd ymuno â'r pwyllgor hwn.
Cewch yma restr o adnoddau defnyddiol i'ch helpu ar eich taith i ddysgu'r iaith, yna sgroliwch lawr i weld crynodeb o hanes Cymdeithas yr Iaith.
ADNODDAU
- Mae Cwrs Cymraeg Duolingo wedi’i fodelu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion llafar safonol ac yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer dysgu defnyddio’r Gymraeg gyda siaradwyr Cymraeg eraill. Mae’r cynnwys yn cyrraedd lefel B1 (Dysgwr Annibynnol). Gallwch gael cefnogaeth bellach yn y grŵp Dysgwyr Cymraeg Duolingo ar Gweplyfr ac mae nodiadau gramadeg a ysgrifennwyd yn broffesiynol sy’n cefnogi’r cwrs ar gael yma. Fe welwch hefyd y deialogau podlediad sy’n cefnogi unedau unigol, sesiynau sgwrsio/darllen am ddim, a dolenni i adnoddau eraill.
- Cwrs ar-lein ac ap Say Something in Welsh – mae llawer wedi darganfod bod SSiW a Duolingo’n ategu ei gilydd yn dda.
- Gallwch ddysgu ynganiad cywir amryw eiriau ar sianel YouTube Welsh Plus.
- Golingo – dyma’r unig ap i ddysgu Cymraeg sy’n defnyddio adnabyddiaeth llais. Gall dysgwyr siarad Cymraeg gyda’r ap.
- Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i drefnu cyrsiau ffurfiol. Mae’r cyrsiau ar gael am brisiau isel ac yn cael eu haddysgu gan diwtoriaid brwdfrydig sy’n gweithio i un o’r canolfannau Cymraeg lleol. Mae gan y wefan gyfleuster chwilio ar gyfer cyrsiau, ac mae gan bob canolfan Gymraeg leol dudalen ar y brif wefan os ydych chi’n chwilio am Gymraeg mewn ardal benodol. Mae llyfrau cwrs am ddim ar gael hefyd, weithiau mewn gwahanol rifynnau. Os oes dewis, dewiswch y rhifyn diweddaraf.
- Mae gan rai o’r prif gyrsiau ar Duolingo straeon i helpu i ddysgu’r ieithoedd hynny. Mae detholiad answyddogol o straeon Cymraeg ar gael yma.
- Mae'r 'Doctor Cymraeg' yn athro Cymraeg sy’n darparu esboniadau am ddim ar ramadeg a phroblemau eraill wrth ddysgu Cymraeg. Gallwch ddod o hyd iddo ar Twitter, Instagram neu ar ei wefan.
- Mae llawer o fideos rhagorol i ddysgwyr Cymraeg ar sianel YouTube S4C. Hefyd mae rhaglenni S4C ar gael ar S4C Clic.
- Mae canllaw gramadeg rhad ac am ddim, wedi’i gyflwyno’n glir iawn, gan y BBC.
- Mae Golwg 360 yn ffynhonnell newyddion. Mae teclyn Vocab ar frig pob tudalen yn cynorthwyo dysgwyr wrth ddarllen deunydd Cymraeg, ac mae mwy o wybodaeth ar y tudalen cymorth i ddysgwyr.
- Os ydych am ddarllen neu ddysgu geiriau caneuon Cymraeg, dyma adnodd gwych.
- Mae Menter Iaith ymhob ardal yng Nghymru ac yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys sesiynau sgwrsio. Ewch i wefan Mentrau Iaith Cymru i ddod o hyd i'ch menter iaith leol.
- I'r rheiny sy'n byw y tu allan i Gymru, mae Menter Iaith Lloegr. Gallwch gysylltu i ddarganfod am grwpiau lleol yn eich ardal.
- Mae nifer o leoedd ar y cyfryngau cymdeithasol gydag adnoddau dysgu Cymraeg megis Facebook, Reddit, Discord.
- Mae Merched y Wawr yn fudiad i fenywod sy’n rhoi croeso arbennig i ddysgwyr benywaidd.
- Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn fudiad ieuenctid i ffermwyr a phobl eraill sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
- Cofiwch hefyd am lyfrgelloedd lleol ble gallwch fenthyg llyfrau Cymraeg ac mae gan yr ap Borrowbox ddewis o e-lyfrau a llyfrau awdio Cymraeg i’w benthyg.
PWY YW CYMDEITHAS YR IAITH?
Cafodd ei sefydlu yn 1962. Dyma beth o hanes y Gymdeithas.
Cyn y 60au
- Dim arwyddion Cymraeg ar y ffyrdd
- Dim ysgolion uwchradd Cymraeg
- Dim hawl i dderbyn dogfennau dwyieithog – ymgyrch y Beasleys i gael bil treth gan Gyngor Llanelli
Y 60au
- Darlith Saunders Lewis ‘Tynged yr Iaith’ ar y radio (13 Chwefror 1962)
- Awst 1962 – sefydlu Cymdeithas yr Iaith, Pontardawe
- Chwefror 1963 – Protest dorfol gyntaf, Pont Trefechan, Aberystwyth
- Trwy'r 60au - ymgyrch peintio arwyddion ffyrdd, ac hefyd tynnu arwyddion Saesneg
- Deddf Iaith 1967 – hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn llysoedd
- 1969 - ymgyrch yn erbyn yr Arwisgo
- Cannoedd yn cael eu harestio yn ystod y ddegawd – cosbau ariannol yn bennaf
Y 70au
- Mwy o arestiadau – cosbau mwy llym
- Ymgyrch dros sianel deledu a gwella gwasanaethau radio- miloedd yn gwrthod prynu trwyddedau teledu
- Sefydlu Radio Cymru yn 1977
- Addewid o Sianel Deledu Gymraeg
Y 80au a’r 90au
- Ceidwadwyr yn torri’r addewid am Sianel Deledu Gymraeg
- Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio i farwolaeth dros Sianel Deledu Gymraeg
- Sefydlu S4C yn 1982
- Ymgyrchu dros Ddeddf Iaith newydd a Chorff Datblygu Addysg Gymraeg.
- 1987 – dechrau'r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo gyda'r slogan ‘Nid yw Cymru ar werth’
- Deddf Iaith 1993
Y ganrif newydd
- 2011 – Mesur y Gymraeg – statws swyddogol i’r Gymraeg am y tro cyntaf
- Sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg yn lle Bwrdd yr Iaith i osod Safonau cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus
- 2011 – protestiadau yn erbyn torri cyllid S4C
- 2011 sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dilyn pwysau gan Gymdeithas yr Iaith a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor
- Cyfrifiad 2011 yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Cymdeithas yr Iaith yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
- Ar ôl etholiad 2016, y Llywodraeth yn cyhoeddi targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Nodau Cymdeithas yr Iaith heddiw
- Deddf Addysg Gymraeg i Bawb
- Datganoli grym dros ddarlledu i Gymru
- Deddf Eiddo
- Ehangu Safonau’r Gymraeg














