Yn mis Tachwedd fe ail lansiwyd Cell Celf ym Methesda. Gofod i ni ddod at ein gilydd, sgwrsio am syniadau dros baned a chacen, rhoi’r byd yn ei le wrth greu celf chwyldroadol wrth gwrs!
Rydym yn creu celf er plesio ein hunain, yn ogystal ar gyfer ymgyrchoed, gigs a gweithredoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mewn byd ble cawn ein boddi mewn hysbysebion sydd yn ein hargymell i wario ar yr hyn nad ydym ei hangen, gwneud merched deimlo’n hull ac i ddynion i deimlo’n annigonol mae creu yn gallu fod yn weithred wrthryfelgar. Mae’r hysbysebion yn gorchuddio ein tirwedd ieithyddol mewn clogyn o Seisnigrwydd cyfalafol. Bydd y Gell Celf yn ymestyn tu hwnt i’r stafell fyw ble caiff ei gynnal i strydoedd ein pentrefi a’n trefi. Be am chwistrellu ychydig o greadigrwydd i’n hamgylchedd?
Mae paentio sloganau, y ddefod o dynnu arwyddion lawr a’i chyflwyno i’r awdurdodau, meddiannu swyddfeydd pwysigion i gyd yn weithredoedd prydferth! Credwn ni bod y ffin rhwng gweithredu a chelfyddyd chreu yn un annelwig iawn. Hoffwn i Gell Celf fod yn ffynhonnell i arbrofi efo’r “ffiniau” yma! Ymunwch a ni!
Stensilo, ffansins, baneri, gludlun, dylunio graffeg, dwdlo, gweu a mwy. Dewch efo’ch doniau a defnyddiau os ydych eisiau rhannu eich crefft ag eraill! Rydym yn edrych ‘mlaen at ddysgu gan ein gilydd.
Estyniad modern o waith a meddylfryd Grŵp Beca yw Cell Celf.
Grŵp o artistiaid oedd yn weithgar rhwng yr 70au ar 90au oedd Beca, greodd chwyldro i gelf yng Nghymru drwy gyflwyno celf gyfoes wleidyddol ar yr iaith a materion diwylliannol Cymru. Fel Beca llais gweledol yw Cell Celf sydd yn galluogi cyfathrebu mwy cynhwysol heb feirniadu safon na gallu'r iaith Gymraeg.
Dewch felly, mae rhywbeth i bawb o bob oed i ymuno! Cysylltwch â Heledd i wybod cyfeiriad ble ym Methesda cynhelir Cell Celf yr wythnos hon: gogledd@cymdeithas.cymru