Galwadau ar Awdurdodau Lleol

Rydyn ni'n galw ar Awdurdodau Lleol i gyfrannu at gyrraedd y targed o fwy na miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Gall Awdurodau Lleol greu siaradwyr Cymraeg trwy:

    • Gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion

    • Gefnogi’r alwad am Ddeddf Addysg Gymraeg i bawb

    • Gynyddu nifer y gweithwyr addysg sy'n siarad Cymraeg

    • Ddarparu cynlluniau prentisiaethau yn Gymraeg

Gall Awdurodau Lleol gynyddu defnydd y Gymraeg

  • Gallant gyfrannu at y targed o greu 1000 o ofodau uniaith Gymraeg trwy:

        ◦ Osod nod o weinyddu'n fewnol trwy'r Gymraeg

        ◦ Fuddsoddi mewn gweithgareddau a gofodau cymunedol Cymraeg

        ◦ Sicrhau bod yn ysgolion gwledig yn derbyn cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif
 

  • Gallant greu rhagor o gymunedau Cymraeg trwy:

        ◦ ddefnyddio'r grymoedd newydd i godi 300% o’r premiwm treth cyngor ar ail dai a thai gweigion

        ◦ sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg


Gall Awdurodau Lleol sicrhau Dinasyddiaeth Gymraeg i bawb trwy:

    • Ariannu gwersi Cymraeg ar bob lefel am ddim i bawb

    • Buddsoddi mewn rhaglenni cyfieithu cymunedol

    • Cydweithio gyda grwpiau cymunedol i sicrhau addysg, gweithgareddau a gofodau Cymraeg i bawb