Senedd y Gymdeithas
Cartref > Amdanom > Senedd y Gymdeithas
Y Senedd yw'r corff sy'n rheoli gwaith Cymdeithas yr Iaith rhwng y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol. Yn wahanol i lawer o fudiadau, mae'r rhan fwyaf o waith y Gymdeithas yn cael ei wneud gan aelodau gwirfoddol, yn hytrach nag aelodau o staff. Mae ymuno â'r Senedd felly yn gyfle i gyfrannu at y gwaith pwysig o gynnal mudiad ymgyrchu bywiog ac effeithiol.
Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd; gall aelodau enwebu eu hunain hefyd. Gallwch ddarllen am gyfrifoldebau'r swyddogion gwahanol yma. Mae’r broses hon yn dechrau tua diwedd Gorffennaf fel arfer, a bydd y pleidleisio yn digwydd yn y Cyfarfod Cyffredinol a gynhelir yn yr hydref. Mae’r Senedd yn cynnwys swyddogion etholedig, cynrychiolwyr y rhanbarthau a staff cyflogedig.
Mae aelodau’r Senedd yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas ac mae nifer o is-grwpiau (grwpiau ymgyrchu a grwpiau eraill) yn bodoli i’w cynorthwyo.
Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd â'r hawl i bleidleisio.
Ar hyn o bryd mae’r Senedd yn cyfarfod bob deufis; cewch wybodaeth am y cyfarfodydd yma. Mae un cyfarfod yn canolbwyntio ar ymgyrchoedd a gwaith y rhanbarthau a'r nesa' yn canolbwyntio ar ymgyrchoedd a materion gweinyddol (sy'n cynnwys hefyd materion codi arian, cyfathrebu, dysgwyr, materion rhyngwladol ac aelodaeth).
Aelodau'r Senedd 2024-25
Swyddogion Etholedig

Is-gadeirydd Ymgyrchoedd
Siân Howys
Yn gyfrifol am gydlynu gwaith y grwpiau ymgyrchu
E-bost Siân Howys

Golygydd y Tafod
Mared Llywelyn Williams
Yn gyfrifol am drefnu a golygu cylchgrawn y Gymdeithas
E-bost Mared Williams

Swyddog Codi Arian a Mentrau Masnachol
swydd wag
Yn gyfrifol am weithgarwch codi arian, gan gynnwys nwyddau
E-bost

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Jac Jolly
Yn gyfrifol am ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol
E-mail Jac Jolly

Swyddog Cyswllt Colegau
Siôn Dafydd
Yn gyfrifol am ddenu pobl ifanc 16+ at waith y Gymdeithas
E-bost Sion Dafydd

Swyddog Diwylliant
Aled Thomas
Yn gyfrifol am hyrwyddo ymgyrchu trwy ddulliau creadigol
E-mail Aled Thomas

Swyddog Dysgwyr
Richard Morse
Yn gyfrifol am drefnu gweithgarwch i bobl sy'n dysgu'r iaith
E-bost Richard Morse

Swyddog Rhyngwladol
Felix Parker-Price
Yn gyfrifol am feithrin cysylltiadau gydag ymgyrchwyr iaith eraill
E-bost Felix Parker-Price

Is-gadeirydd y Grŵp Hawl i’r Gymraeg
swydd wag
Swyddogion Rhanbarthol
Cadeiryddion Rhanbarth Glyndŵr, Morgannwg-Gwent a Phowys i'w cadarnhau
Staff Cyflogedig
Mae ** hefyd wedi ei ethol yn Swyddog Aelodaeth yn gyfrifol am hyrwyddo aelodaeth a thynnu aelodau mewn i weithgarwch y Gymdeithas; nid yw’r swydd hon yn rhan o’r Senedd.
Noder: os hoffech chi fod yn rhan ganolog o waith y Gymdeithas, mae swydd y Swyddog Dylunio yn wag ar hyn o bryd. Cysylltwch am wybodaeth bellach.