Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas
Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas
Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas
10.00, dydd Sadwrn, 7 Chwefror 2026
Tŷ Siamas, Dolgellau (ond bydd cyfle i ymuno arlein hefyd)
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn, ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio).
Mae'r Senedd yn cyfarfod yn fisol, ac yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o waith y Gymdeithas bob tro – ymgyrchoedd, materion rhanbarthol ac ochr weinyddol gwaith y Gymdeithas (sy'n cynnwys cyfathrebu, codi arian, dysgwyr, materion rhyngwladol, ac ati). Senedd Ymgyrchoedd fydd ym mis Chwefror.
Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os am fynychu neu os am wybodaeth bellach.
Noder hefyd:
- Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd, a byddwn yn cynorthwyo gyda threfniant gofal plant. Mae swyddogion cyflogedig (neu wirfoddol) y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.
- Byddwn yn talu costau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill. Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.
- Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd â'r hawl i bleidleisio. Mae rhagor o fanylion am y Senedd yma.