Grwp Cymunedau Cynaliadwy

Cartref > Digwyddiadau > Grwp Cymunedau Cynaliadwy

Cyfarfod o'r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

6.00/6.30 (amser i'w gadarnhau), nos Fawrth, 3 Mawrth 2026

Cyfarfod dros Zoom

Dyma'r grŵp sy'n ymgyrchu dros ddiogelu cymunedau Cymru.

Y brif ffocws ar hyn o bryd yw'r ymgyrch i sicrhau Deddf Eiddo ac yn y cyfarfod byddwn yn ffocysu ar ein strategaeth dros y misoedd nesaf ac yn arbennig yn dilyn etholiadau Senedd Cymru.

Mae'r grŵp bob amser yn chwilio am aelodau newydd.Os oes gennych ddiddordeb yn y maes, cysylltwch i gael eich ychwanegu at y rhestr ac, os nad ydych chi'n siwr, beth am fynychu cyfarfod neu ddau er mwyn cael gweld beth yw beth.

Pob digwyddiad