Rali Grym yn ein Dwylo

Cartref > Digwyddiadau > Rali Grym yn ein Dwylo

Cyflawnwyd llawer 2021-25 gan bobl Cymru: 

(a) gan y miloedd ddaeth allan yn Nhryweryn, wrth y Senedd, ar Bont Trefechan a thrwy'r wlad i ddatgan NYCAW a llwyddwyd i gael camau pwysig i reoli ail gartrefi a llety gwyliau gormodol a oedd yn gwaethygu'r sefyllfa, a 
(b) gan bobl mewn llawer o gymunedau fel Stiniog a Dyffryn Ogwen yn dangos potensial creu mentrau cymunedol. 

Ers blwyddyn fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi rhedeg allan o stem, yn llusgo mlaen yn unig at yr etholiad nesaf - cyhoeddodd Bapur Gwyn ar Dai a gwneud dim yn ei gylch, gadael i Gomisiwn dreulio dwy flynedd i greu argymhellion am ymateb i argyfwng ein cymunedau Cymraeg, cymryd deg mis i ystyried, ac yna cyhoeddi DIM o werth, dim hyd yn oed addewidion at y dyfodol.  Cydnabyddwn felly na chawn ni ddim o sylwedd allan o lywodraeth ganolog yr ochr yma i etholiad cyffredinol - dim ond efallai ychydig o gonsesiynau yn eu cyllideb olaf yr hydref hwn, ac efallai yn eu maniffestos addewidion - a fydd yn wag oni bai fod pwysau arnynt i weithredu. Rhoddwn rybudd y byddwn felly'n cynnal rali fawr yr haf nesaf i roi pwysau ar y llywodraeth newydd i weithredu. 

Yn y Cyfamser, y flaenoriaeth yr hydref a'r gaeaf hwn fydd gwneud popeth posib i hybu datblygiad mentrau cymunedol trwy Gymru yn ôl agenda Cymunedoli - gan wahodd wedyn pobl o'r mentrau hyn i ddod efo ni at rali yr haf nesaf.

Siaradwyr:
Jaci Cullimore
Mel Davies
Siân Gwenllian 
Osian Jones 
Huw Williams Llywydd UMCB

Cerddoriaeth gan:
Siôn Richards
Côr Aelwyd JMJ

Mwy o wybodaeth: post@cymdeithas.cymru

 

Pob digwyddiad