Gadael carafán i'r Llywodraeth
Cartref > Galeri > Gadael carafán i'r Llywodraeth
Gadawyd hen garafán gyda'r geiriau "Hawl i Gartref" a symbol tafod y ddraig wedi eu paentio ar ei hochr tu allan i swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin fel gweithred brotest yn erbyn Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd Llywodraeth Cymru, sydd llawer yn rhy wan i fynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n wynebu cymunedau Cymru.
Bwriad y weithred oedd gofyn yn symbolaidd i'r llywodraeth a ydyn nhw'n disgwyl i lawer o'n pobl ifainc fyw mewn hen garafanau gan na allant fforddio tai yn eu cymunedau. Mae'n symbol hefyd o fethiant polisi tai Llywodraeth Cymru dros 25 mlynedd: anaddas, annigonol a thymor byr.